BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Lleisiau

BBC Homepage
»Radio Cymru
Cyflwynwyr
Digwyddiadur
Rhaglenni
Ar y Marc
Bwrw Golwg
C2
Clywch Clywch
Eileen
Geraint Lloyd
Siân Thomas
Talwrn
Taro'r Post
Gwybodaeth am Radio Cymru
BBC Cymru'r Byd
Chwaraeon
Newyddion
Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Llên
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

LlunFedrwch chi ddatrys dirgelwch y llun?
Mae Carey Jones yn berchen cannoedd ar gannoedd o hen luniau o'r ardal. Ond y mae un llun o griw o weithwyr yn fwy o ddirgelwch iddo na'r lleill i gyd efo'i gilydd.



Ar ôl holi a holi mae Carey o Flaenau Ffestiniog yn tybio i'r llun gael ei dynnu ddiwedd yr 1800au ond does neb wedi medru dweud wrtho fo pwy ydi'r dynion na beth oedd yr achlysur pan dynnwyd y llun.

image alt tag




















"Un peth sy'n ddiddorol am y llun ydi fod rhai o'r gweithwyr yn dal tusw o grug gwyn ac mae gan rai eraill dusw o grug yn ar labed eu cotiau," meddai Carey sydd yn barafeddyg wrth ei waith bob dydd ac yn dynnwr lluniau a chasglwr hen luniau yn ei amser hamdden.

Cnewyllyn ei gasgliad ydi lluniau a dynnwyd dros y blynyddoedd gan ei dad, Arthur Wyn Jones, a fu farw yn 1997.

"Becar oedd fy nhad ond yr oedd ganddo ddiddordeb mawr mewn tynnu lluniau hefyd ac mi fyddai'n tynnu i'r Cambrian News," meddai Carey sydd erbyn hyn wedi rhoi trefn ar y cannoedd ar gannoedd o luniau a dynnwyd ganddo.

Mae'r casgliad yn gofnod gwerthfawr o fywyd y Blaenau yn ystod y ganrif ddiwethaf gan i Arthur Wyn Jones roi pwyslais ar dynnu lluniau o olygfeydd ac adeiladau yn yr ardal cyn iddyn nhw gael eu newid yn sgil ailadeiladu a datblygu.

Nid yn unig mae cyfoeth o luniau o'r Blaenau fel yr oedd ond mae yna hefyd lawer o luniau o gymeriadau'r ardal.

Mae Carey ei hun yn parhau â'r traddodiad hwnnw o gadw i genedlaethau sy'n dod luniau o'r Blaenau fel y mae heddiw cyn newidiadau ddigwydd.


News image


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy