|  |
  | |
Blaenau Delyth Gray Delyth Gray, golygydd Llafar Bro, yn dweud beth mae Blaenau Ffestiniog yn ei olygu iddi hi.
* Rwy'n 35 oed ac wedi fy ngeni a fy magu ym Mlaenau Ffestiniog. Rwyf wedi byw yng nghanol y dref erioed, ar wahan i'r cyfnod lle bum yn fyfyrwraig yn y Brifysgol ym Mangor, ac yna yn dysgu mewn ysgol uwchradd yn Llydaw, ac yn y Brifysgol ym Mharis.
* Mae cael byw yn y Blaenau yn golygu tipyn i mi, a'r rheswm pennaf am hynny yw oherwydd y gymdeithas glos sydd yn bodoli yma. Hefyd, rwy'n ei ystyried yn fraint fy mod yn gallu siarad Cymraeg pob dydd yma gyda'r holl drigolion.
Mae fy ngwr, sy'n hannu o Brestatyn ac sydd wedi dysgu'r iaith Gymraeg fel oedolyn, wrth ei fodd yma gan ei fod yn gallu ymarfer ei ail iaith yn feunyddiol.
Er bod mwy a mwy o fewnfudwyr yn dechrau setlo yn y dref, fel ymhobman, mae'r Gymraeg yn parhau yn gryf a chadarn. Yn sgil hyn, braf yw medru magu fy merch fach chwech oed, Megan, yn gwbl Gymraeg. Trwythir plant sy'n mewnfudo yn y Gymraeg yn syth bin pan ddont i'r ysgolion lleol fel mai Cymraeg ydi iaith yr iard a'r dosbarth yn ddi-eithriad.
* Mae doniau cerddorol trigolion y dref hon yn haeddu sylw a chanmoliaeth uchel. Ym mha dref arall o faint Blaenau y cewch chi dri chôr (Brythoniaid, Moelwyn, Cymysg y Blaenau), dau fand pres (Band iau, Band Brenhinol yr Oakeley), a thri grwp roc mwyaf blaengar Cymru ( Anweledig, Mim Twm Llai, Estella).
Fe ddaeth fy niddordeb i mewn canu a pherfformio, fel sawl un arall, yn sgil brwdfrydedd a gwaith caled athrawon Ysgol Y Moelwyn , megis Meinir Humphreys ( Drama) Gwen Edwards (Llefaru a Chymraeg) a Geraint Vaughan Jones (Llenydda).
Hefyd, cefais y fraint o gael perthyn i Gor Aelwyd yr Urdd Blaenau dan arweiniad campus Meirion Jones am sawl blwyddyn, a mawr yw fy niolch personol i Bobi Roberts a'r arweinyddion eraill, Haf Thomas a Pit Maddocks am yr oriau y treuliasant yn wirfoddol yn ein diddori fel aelodau'r Urdd.* Yr hyn sy'n nodweddiadol am y Blaenau ydi hiwmor pobl yr ardal. Ceir llond trol o chwerthin a thynnu coes yn y dref hon. Ceir colofn arbennig yn y Llafar Bro yn fisol yn dwyn y teitl Clywsom' lle mae cyfle i ddwyn i sylw pobl y troeon trwstan sydd wedi digwydd i unigolion yn ystod y mis.
Mae'r hiwmor i'w weld yn amlwg yn y tafarnau lleol ac ar y cae pêl-droed.
* Yn sgil yr hiwmor unigryw a geir yma daw y llysenwau. Chewch chi'r unlle gwell na'r Blaenau am lysenwau gwreiddiol a difyr. Mae cymeriadau di-ri dros y blynyddiedd wedi cael enwau megis Magi Ffwl Pelt' , Mary piso'n gam' a Dic one and nine', heb son am Jonny Fingers' ( arfer dwyn pan yn blentyn) a Dick One Cow' ( Duw a wyr pam!).
* Mae ardal y Blaenau yn lle bendigedig o brydferth hefyd, yn enwedig y mynyddoedd sy'n amgylchynnu'r dref y Moelwynion a'r ddau Fanod, y llynnoedd hardd Barlwyd a Morwynion, ac wrth gwrs y llecyn gorau'n y byd sef Cwmorthin.
Yn wir, mae na rywbeth arbennig o hudolus am Gwmorthin gyda'i hen adfeilion a'r llyn a'r bywyd gwyllt sydd yno. Cafodd fy nhad ei fagu yno, a mawr oedd ei barch am y lle.
* Gobeithiaf yn fawr y bydd Blaenau yn datblygu ac y bydd y dref yn llewyrchus yn y dyfodol. Mae lefelau tlodi yn uchel iawn yma, ond mae ysbryd ei phobl yn gryf ac yn gadarn. Mae gobaith ar hyn o bryd y bydd Neuadd y Farchnad y dref yn cael ei hail agor ac yn dod yn neuadd aml bwrpas ar gyfer trigolion y dref. Rhywbeth sydd ei angen yn fawr iawn yma. Beth bynnag a ddaw , un peth sy'n sicr does yna unlle yn debyg i'r Blaenau!
|  |
 |  |
|