|  |
  | |
Y Dafydd Du go iawn! Tra'n paratoi ar gyfer Lleisiau ym Mlaenau Ffestiniog mae BBC Radio Cymru wedi dod o hyd i'r "Dafydd Du go iawn"!
Gydol y blynyddoedd yr oedd BBC Radio Cymru yn meddwl mai dim ond un Dafydd Du sydd yna.
Ond ym Mlaenau Ffestiniog mae'r orsaf radio wedi dod o hyd i'r "Dafydd Du Go Iawn" ac mi fydd o'n darlledu'n rheolaidd yn yr ardal fel rhan o weithgarwch Lleisiau.
Ac mi fydd y Dafydd newydd - sydd yn ddu go iawn yn cyflwyno ei raglen radio ei hun gydag un arall o drigolion y Blaenau am hanner awr wedi chwech bob nos.
Nid newydd Mae Radio Bro Blaenau ar BBC Radio Cymru yn arbrawf cyffrous sy'n galluogi i bobol leol ddarlledu yn eu bro eu hunain i'w bro eu hunain.
Dafydd Lloyd Hughes ydi'r Dafydd Du 'newydd' er efallai y byddai o yn dadlau efo'r disgrifiad, "newydd" yna gan ei fod o'n Dafydd ac yn ddu ers ei eni.
Wedi fagu ym Nghartref Bontnewydd y tu allan i Gaernarfon, nyrs yn y gymuned ydi Dafydd wrth ei waith bob dydd yn gweithio i gynorthwyo rhai gydag anabledd dysgu.
Mae o hefyd wedi bod yn blismon.
Ennill medal Ond daeth Dafydd i enwogrwydd gyntaf pan yn blentyn yng Nghartref Bontnewydd trwy ennill un o fedalau y rhaglen deledu Blue Peter am ei ddewrder pan aeth y cartref ar dân.
"Ond y cyfan wnes i oedd gweiddi 'Tân' a helpu cario rhai o'r plant eraill allan. Bore Sul oedd hi, dwi'n cofio'n iawn," meddai.
Dim rhagfarn Mae Dafydd yn byw yn y Blaenau ers pymtheng mlynedd bellach ac wrth ei fodd efo tre lle nad yw erioed wedi profi unrhyw fath o ragfarn oherwydd lliw ei groen.
"Yn wir, dydw i rioed wedi cael dim problem. Dwi'n derbyn fy mod i'n cael fy adnabod fel Dafydd Ddu mewn lle sydd mor enwog am i ffugenwau ond nid rhagfarn hiliol ydi peth felly," meddai.
"Dwi'n meddwl mai'r peth pwysig ydi inni beidio edrych yn negyddol ar y pethau hyn mae gan bawb i ffugenw yn y Blaenau," meddai.
Yn ogystal â chyflwyno rhaglen gyda Gwilym Euros sy'n gynghorydd lleol bydd Dafydd yn chware recordiau hefyd.
"Mi allwch chi ddisgwyl dipyn o Edward H a stwff y saithdegau," meddai. "Bob Delyn hefyd, Ap Ted ac wrth gwrs hogia Stiniog fatha Anweledig wnâi ddim i anghofio nhw."
Cyfres deledu hefyd Mae hwn yn digwydd body n amser eitha prysur i Dafydd ar y cyfryngau achos bydd i'w weld hefyd ar gyfres deledu gan y BBC, Criw'r Cyngor, yn dilyn rhai o weithwr Cyngor Sir Gwynedd wrth eu gwaith.
Ond dywedodd na fydd o ddim yn cael ei demtio i wneud gyrfa ohoni hi.
"Mae nyrsio yn talu'n well!" meddai gan wenu. "Ac mae'r pleser mae rhywun yn ei gael gymaint mwy yn enwedig pan fo rhywun yn dweud 'Diolch yn fawr' ar ôl ichi fedru'u helpu nhw," meddai.
Dywedodd fod y gynhaliaeth i rai gydag anabledd dysgu wedi gweella'n fawr dros y blynyddoedd.
"Flynyddoed yn ôl y duedd oedd i guddio'r bobl hyn a gwadu eu bodolaeth ond yn awr y nod ydi eu cael nhw'n aelodau llawn o gymdeithas ac er mwyn gwneud hynny mae'n rhaid wrth help i'w rhieni a'r rhai sy'n gofalu amdanyn nhw," meddai.
|  |
 |  |
|