BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Lleisiau

BBC Homepage
»Radio Cymru
Cyflwynwyr
Digwyddiadur
Rhaglenni
Ar y Marc
Bwrw Golwg
C2
Clywch Clywch
Eileen
Geraint Lloyd
Siân Thomas
Talwrn
Taro'r Post
Gwybodaeth am Radio Cymru
BBC Cymru'r Byd
Chwaraeon
Newyddion
Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Llên
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Amser cinio ym Mhwerdy Tanygrisiau yn y pumdegauCymeriadau o fri
Vivian Williams yn cofio rhai o'r cymeriadau y bu'n cydweithio efo nhw ym Mhwerdy Tanygrisiau, y Blaenau:



Os oes gennych chi straeon difyr anfonwch rhag blaen . . .ebostiwch

Cyn oeri'r gwaed
Byddai'r diweddar Robin Charles, trydanwr ym Mhwerdy Tanygrisiau, yn ffond iawn o adrodd ei hanes tra roedd yn y fyddin adeg y rhyfel ac yntau'n aelod o'r gatrawd feddygol y Medical Corps

Un o'i straeon enwocaf oedd honno amdano yn trin y Brenin Farouk o'r Aifft yn y Sahara a hwnnw'n dioddef o anhwylder a newidiai bob tro yr adroddai Bob y stori.

Yn ôl Bob cafwyd trafferth mawr rhoi trallwysiad gwaed i'r brenin yn y babell feddygol yn yr anialwch.

Oherwydd i'r hin fod mor oer yno yn y nos roedd y gwaed yn rhewi a bu'n rhaid ei ferwi cyn iddo redeg drwy'r gwythiennau!

Yn ôl troed y fforman
Un o'r rhai enwoca am ei gastia oedd Dafydd Griffiths, neu Dafydd Bach i ni.

Cofiwn yn dda amdano, yn ystod hanner awr ginio, yn peintio gwadnau sgidia'r fforman tra'r oedd hwnnw'n cael pum munud o gwsg.

Bu'r criw yn dilyn ôl troed y fforman yn llythrennol y diwrnod hwnnw!

Tewach na dwr
Arwel Llwyn Crai, wedyn un arall direidus iawn. Un tric ganddo fo oedd gwagio potel Turpentine a'i llenwi efo dwr a gwylio'r peintiwr yn trio teneuo paent efo'r dwr!.

Mynd â'r ci am dro
Un o Nant Gwynat oedd y diweddar Dafydd Arnold ac arferai gadw'i gar ger siop y pentre.

Un diwrnod penderfynodd fynd i ymweld â'i deulu ym Mhen Llyn ac i ffwrdd a fo yn ei ffordd hamddenol, braf, arferol.

Newydd gychwyn gwelai ddyn y siop a chwsmeriaid yn codi llaw arno a chododd yntau ei law yn ôl.

Ychydig i lawr y ffordd dyma fws yn mynd heibio a'r gyrrwr a'r teithwyr i gyd yn codi dwylo ar Dafydd ac yntau'n rhyfeddu mor gyfeillgar oedd pawb.

Aeth y modur fel wennol i Rydyclady ac yno y tynnwyd sylw Dafydd at dennyn ci yn hongian wrth y towbar. Dirgelwch llwyr i bawb nes iddo ddychwelyd adref.

Roedd un o gymdogion Dafydd wedi cychwyn am dro y bore hwnnw gyda'i chi Bocsar neu Bulldog a thra'n galw yn y siop am bapur newydd wedi gadael y ci y tu allan wedi ei rwymo gerfydd ei dennyn wrth gar Dafydd.

Yn anffodus i'r ci druan ni wyddai Dafydd ddim amdano a chafodd ei dynnu i lawr y ffordd gan y car a dyna'r rheswm pam yr oedd pawb yn codi dwylo i geisio tynnu sylw'r dreifar at y trotiwr tu ôl.

Cafodd y ci ei dynnu dryw dri chan llath i lawr y ffordd. Dywedodd llygad-dyst mai rhoi'r brêc on ddaru'r anifail wrth weld Dafydd yn pasio'r tŷ a dyna sut y torrodd linc yng nghadwen y goler a'i ryddhau.

Yn ffodus i'r ci, doedd Dafydd mo'r dreifar cyflyma'n y byd ac fel y sylwodd un wag, tasa'r tennyn ddigon hir mi fasa'r ci wedi'i ofartecio i'w rybuddio!

Yn ei bryder aeth Dafydd i edrych am y ci a dyna lle'r oedd o, druan, o flaen y tân ar wastad ei gefn a'i bawennau tendar i fyny'n yr awyr ac felly y buont am ddyddiau.

Chafodd o mo'i rwymo'n sownd ym mympar car neb ar ôl hynny.

Rhoi nhroed ynddi
I mi, y cymeriad mwyaf ohonynt i gyd oedd un a fu'n bartner i mi yn y blynyddoedd cynnar yn y pwerdy ac a fu'n gyfaill agos iawn y diweddar Goronwy Owain Davies G'ronwy Post neu Giaffar.

Daeth cnoc ar y drws acw un diwrnod a dynes o Danygrisiau yn gafael mewn pâr o sgidia ac yn gofyn imi eu sodli nhw iddi. Mi ges gryn drafferth egluro nad o'n i'n grydd Gronwy wedi deud wrthi mod i'n un da am drwsio sgidia.

Tipyn o bry
Un shifft nos yn ystod yr haf tua diwedd y 1970au gwelais chwilen fawr ddu wedi marw.

Wrth law gen i roedd potel o inc gwyn a ddefnyddiwn i beintio dros wallau teipio a phensilau felt tip coch a gwyrdd felly mi es ati i beintio'r chwilen yn wyn, ychwanegu sbotia coch a gwyrdd ac er yr edrychai yn effeithiol iawn doedd hi ddim byd tebyg i unrhyw bry na chwilen ar wyneb daear!

Y pnawn hwnnw es i lawr i'r ardd yn Nolmoch lle'r oedd Gron yn chwynnu letys. Tra roedd ei gefn wedi troi gollyngais y chwilen yn dwt yng nghanol y letysan fwyaf cyn mynd i wneud ychydig o arddio fy hun.

Y noson honno yng nghaban y gwaith dywedodd Gron iddo ddarganfod y pry od.
"Ew roedd o'n dlws fel tasa rhywun wedi lluchio blawd arno fo a rhyw sbotia coch a gwyrdd ar i gefn o."

Cyn iddo fynd ymhellach, torrais ar ei draws, "Colorado Beetle mae na bla ohonyn nhw leni," gan fynd ati i'w berswadio ei bod yn drosedd peidio a riportio gweld y pryfyn ac y byddai economi amaethyddol y wlad mewn perygl.

Erbyn diwedd y shifft llwyddais, gyda chefnogaeth Bob Dafis, garddwr arall, i'w berswadio i fynd â'r chwilen i'r polîs stesion mewn bocs matsus.

Beth ddigwyddodd wedyn, nid yw'n sicr, ond mae rhyw sôn i'r heddlu gael tipyn o hwyl wrth ddadansoddi'r Colorado Beetle!

Hen luniau Pwerdy Tanygrisiau


News image


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy