BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Lleisiau

BBC Homepage
»Radio Cymru
Cyflwynwyr
Digwyddiadur
Rhaglenni
Ar y Marc
Bwrw Golwg
C2
Clywch Clywch
Eileen
Geraint Lloyd
Siân Thomas
Talwrn
Taro'r Post
Gwybodaeth am Radio Cymru
BBC Cymru'r Byd
Chwaraeon
Newyddion
Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Llên
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Côr y Brythoniaid yn cyrraedd y nodau uchaf
Y flwyddyn nesaf (2004) bydd Côr y Brythoniaid yn dathlu ei ben-blwydd yn 40.

Fe'i ffurfiwyd yn ôl yn 1964 gan wr lleol o'r enw Meirion Jones a hynny am i nifer o gantorion cylch Stiniog fynd i'w ben i godi côr cystadleuol yn yr ardal.




Roedd Côr y Moelwyn eisoes mewn bodolaeth, wrth gwrs, ond yn y dyddiau hynny doedd o ddim yn cystadlu mewn eisteddfodau.

Y Brythoniaid gwreiddiolSut bynnag, gwaith hawdd yn y dyddiau hynny fu cael deugain o leisiau at ei gilydd, efo Miss Katie Plemming a Sylvia Ann Jones (arweinyddes y Moelwyn bellach!) yn cyfeilio.

Llwyddiant cynnar
Caed llwyddiant cynnar mewn eisteddfodau bychain a chyda'r llwyddiant hwnnw fe dyfodd yr aelodaeth yn gyflym.

John Eifion, arweinyddYmhen tair blynedd, roedd y Brythoniaid yn barod i gystadlu am Gwpan y Ffiwsilwyr Cymreig yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala - ac er mai trydydd gawson nhw, eto i gyd ddwy flynedd yn ddiweddarach yn Y Fflint fe ddaethant i'r brig.

Blynyddoedd cyffrous oedd y saithdegau. Yn ogystal â rhagor o lwyddiannau eisteddfodol, gan ddechrau efo Eisteddfod Bangor 1971, fe gaed taith fythgofiadwy i Hwngari yn 1975 ac yna, yn 1980, aeth y Brythoniaid â chôr o gant a chwech o leisiau i Galiffornia, i gynnal cyngherddau yn rhai o neuaddau mwyaf nodedig San Ffransico a Los Angeles.

Bu'r daith honno'n llwyddiant a hanner.

Cwymp mewn aelodaeth
Y BrythoniaidNi fu'r 80au a'r 90au mor llewyrchus efallai, ac fe welwyd cwymp yn nifer yr aelodau ond fe gaed rhywfaint o lwyddiant trwy gystadlu, serch hynny, gan gynnwys Cystadleuaeth Stenna yn 1980 a'i ddyfarnu'n Gôr y Flwyddyn yn 1982.

Bu teithiau i Lydaw (ddwywaith), i'r Alban (ddwywaith) a Brwsel, yn ogystal â thaith arall i'r Unol Daleithiau yn 1990, i ganu y tro hwn mewn lleoedd fel Baltimore a Washington.

Wedi recordio
Dros y blynyddoedd, mae'r Côr wedi recordio llawer iawn gyda chwmni Sain ac mae eu tapiau a'u cryno ddisgiau wedi bod yn boblogaidd nid yn unig yma yng Nghymru ond hefyd yng ngweddill gwledydd Prydain, a thramor.

Oherwydd y gwerthiant uchel hwnnw y cyflwynodd Sain.Ddisc Aur i'r côr.

Arweinydd newydd
Yn 2001, ar ôl gwasanaeth clodwiw o 37 o flynyddoedd, fe benderfynodd Meirion Jones ymddeol o'r arweinyddiaeth ac yn neuadd orlawn Ysgol y Moelwyn, nos Iau Mawrth 29, cynhaliwyd cyngerdd o ddiolch iddo.

I'w le, daeth John Eifion Jones, gwr ifanc oedd ei hun wedi profi llwyddiant anhygoel ar lwyfan y Genedlaethol dros y blynyddoedd trwy ennill yr unawd tenor bum gwaith ac yna yn y flwyddyn 2000, y Rhuban Glas hefyd.

Yn Eisteddfod Tyddewi 2002, o dan ei arweinyddiaeth ef, fe gipiodd y Brythoniaid brif wobr y corau meibion unwaith eto, trwy drechu côr mawr Llanelli y tro hwn.

Ffodus o'i gyfeilyddion
Dros y blynyddoedd, bu'r Brythoniaid yn ffodus iawn yn eu cyfeilyddion hefyd.

Caed gwasanaeth hir a chlodwiw gan rai lleol fel Katie Plemming, Sylvia Ann Jones a Jennie M. Ellis, a chan Nerys Jones o Ddolgellau.

y cyfeilydd a'r llywyddY gyfeilyddes ers rhai blynyddoedd bellach yw Elizabeth Ellis o Ddolgellau ac, fel ei rhagflaenwyr, mae hithau hefyd yn gaffaeliad mawr iawn i'r Côr.






Rhai cerrig milltir:
Buddugwyr Gwyl Gorawl Gogledd Cymru Tachwedd 1998- Yn Llandudno
Côr Y Flwyddyn HTV 1982
Y Genedlaethol:
Y Fflint 1969
Bangor 1971
Wrecsam 1997Y Rhyl 1985
Tyddewi 2002


News image


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy