BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Lleisiau

BBC Homepage
»Radio Cymru
Cyflwynwyr
Digwyddiadur
Rhaglenni
Ar y Marc
Bwrw Golwg
C2
Clywch Clywch
Eileen
Geraint Lloyd
Siân Thomas
Talwrn
Taro'r Post
Gwybodaeth am Radio Cymru
BBC Cymru'r Byd
Chwaraeon
Newyddion
Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Llên
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

IdrisIdris Williams
yn trafod effaith twristiaeth a diweithdra ar yr ardal.






Effaith twristiaeth ar yr ardal
Credaf fod twristiaeth yn bwysig iawn i ardal Blaenau, ond mae'r sefyllfa ar hyn o bryd yn siomedig.

Mae'r Blaenau rhwng dwy brif dref twristiaeth y fro - Porthmadog a Betws y Coed. Nid yw twristiaid yn teithio trwy Blaenau ond hyd y cyrion er mwyn cyrraedd trefi fel Porthmadog neu Betws.

Er 1972 mae chwarel Llechwedd wedi ail agor ei drysau i dwristiaeth ac mae'n awr yn brif atyniad y Blaenau. Credaf fod angen rhywbeth newydd i ddenu pobl ifanc i'r ardal, nid yw Llechwedd yn denu'r ifanc. Mae'r ymwelwyr yn picio i Llechwedd, yna efallai i gaffi, yna'n troi yn ôl am Borthmadog ar y trên stêm. Nid ydynt yn ymweld â'r Blaenau ei hun felly, nid yw siopau a busnesau yn gwneud arian.

Cyrraedd y Blaenau Dau brif beth arall sydd ddim yn helpu i ddenu twristiaid i'r ardal yw'r ffaith nad oes dim byd modern a newydd yma i gystadlu gydag atyniadau Porthmadog a Betws. Hefyd, yr enw drwg mae Blaenau wedi'i gael, ei bod hi'n bwrw yma o hyd!!

Dydir prinder gwestyau yn Blaenau ddim yn helpu'r sefylfa yma chwaith. Hyd y gwn i dau westy sydd gan y Blaenau o gymharu â Betws y Coed sydd ag o leiaf ddeg.

O fy mhrofiad personol o fyw yn y Blaenau rydw i'n medru dweud fod twristiaid yn ei chael hi'n anodd iawn i ganfod eu ffordd o amgylch Blaenau. Fedra i ddim cofio faint o weithiau maent wedi dod ataf i holi am y ffordd i'r parc neur pwll nofio etc. Mae hyn yn dangos fod diffyg arwyddion neu fapiau yn Blaenau.

Heddwch a thangnefedd - ond oes yna rywbeth i'w wneud? Mae twristiaeth hefyd yn medru creu llawer o swyddi ond yn sefyllfa Blaenau dydi'r swyddi yma ddim ond ar gael yn yr haf, ac mae llawer o bobl yn ddi-waith trwy'r gaeaf, gwanwyn ar hydref. Rydwi'n credu y dylai'r cyngor wneud mwy i wella'r sefyllfa trwy drio denu diwydiant newydd i'r ardal.

Effaith diweithdra ar deuluoedd y Blaenau.
Mae di-weithdra yn y Blaenau heddiw yn ofnadwy oi gymharu â rhai blynyddoedd yn ôl pan oedd y chwareli yn gweithio ac yna'r atomfa yn Trawsfynydd. Erbyn heddiw mae llawer iawn o bobl Blaenau yn heb waith ac mae'r niferoedd sy'n gweithion llawn amser yn isel iawn. Yr unig brif fath o waith yn Blaenau yw Blaenau Plastics sydd yn cyflogi dros ddau gant o weithwyr.

Mae di-weithdra yn achosi i ffrindiau a theuluoedd wahanu i ddarganfod gwaith yn rhywle gwahanol. Mae tyndra mewn cartrefi gyda chyplau dan straen oherwydd diffyg gwaith ac arian.

Enghraifft dda o ffrindiau a theuluoedd yn gwahanu oherwydd diffyg gwaith ac arian ywr hyn a ddigwyddodd gaewyd yr atomfa yn Nhrawsfynydd. Colloddd cannoedd eu gwaith, yn cynnwys fy nhad. Bu raid i deulu Mrs Jones o ben fy stryd symud i Gaint.

Arwydd o'r amserau? Neuadd y farchnad yn wag Mae pobl ifanc hefyd yn symud i ffwrdd oherwydd di-weithdra i ddinasoedd fel Manceinion a Llundain. Ar ôl bod yn y coleg maent yn disgwyl gwaith a chyflog uchel, ond nid yw ar gael yn Blaenau, felly maent yn cael eu gorfodi gan amgylchiadau i symud.

Yn y diwedd credaf y bydd y capeli, y siopau, y traddodiadau, ac yna'r holl dref yn marw yn union fel yr iaith Gymraeg.

Mwy


News image


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy