|  |
  | |
Erin Fflur Maddocks yn trafod y chwareli, mewnfudo ac agweddau gobeithiol ar fywyd y fro.
Cefndir - y chwareli Yn y ganrif ddiwethaf, y chwareli oedd asgwrn cefn yr economi heb amheuaeth. Y chwareli, a'r swyddi yno oedd yn denu pobl i ddod i fyw yn yr ardal, ac erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd 3,649 o bobl yn gweithio yn y chwareli.
Y chwarel gyntaf yn Blaenau i ddefnyddio trydan oedd Llechwedd, yn 1891, a Llechwedd sy'n dal i fod y chwarel fwyaf adnabyddus heddiw, agorodd i'r cyhoedd yn 1972, ac mae'n denu twristiaid i ddod i weld sut roedd pobl yn gweithio yno.
Ond mae gan drydan, a'r dechnoleg newydd eu hanfanteision hefyd. Tybiaf mai oherwydd y peiriannau y collodd llawer o ddynion eu gwaith, gan ei bod yn rhatach i redeg robot na chyflogi pobl leol.
Ar un adeg roedd 19 o chwareli yn cael eu gweithio yn y Blaenau ond erbyn heddiw dim ond dwy sy'n dal yn agored a chredaf y bydd raid i'r rhain hefyd gau yn y dyfodol agos.
Effaith Mewnfudo ar y Gymuned Wrth i ddiwydiannau dueddu i gau, a'r bobl leol yn gorfod symud i ffwrdd, mae mewnfudwyr yn symud i mewn i'r ardal. Gan amlaf,, Saeson mewn oed yw'r mewnfudwyr hyn. Oherwydd hyn, does dim angen gwaith arnynt, a gall y siawns y bydd cwmniau newydd yn dod i'r ardal leihau oherwydd hyn. Saeson mewn oed sydd yn byw drws nesaf i mi, a thros y ffordd hefyd.
Yn ddiweddar mae'r tai yn yr ardal wedi mynd yn ofnadwy o ddrud. Nid yw'r bobl lleol yn gallu fforddio prynu'r tai hyn ond maent yn ddigon rhesymol i bobl sy'n byw yn nhrefi mawr Lloegr.
Anfantais arall ynglyn â mewnfudwyr Saesneg eu hiaith yw eu bod, heb sylweddoli hynny, yn lladd yr iaith Gymraeg. Nid oes pwrpas, yn eu tyb hwy, dysgu Cymraeg, gan fod pawb yn yr ardal yn deall Saesneg yn barod. Allan o dri theulu Saesneg yn fy stryd i, un sydd yn ceisio dysgu Cymraeg. Os mentrwch i'r stryd nesaf, ni fydd y goleuadau ymlaen yn y tai, gan mai tai haf ydynt bron i gyd ar wahan o dri neu bedwar.
Nid oes gennyf ddim yn erbyn pobl yn symud i'r ardal, cyn belled â'u bod yn trio'u gorau i ddysgu Cymraeg a ffitio i mewn i'r gymuned ac rwy'n credu mai dyma yw agwedd y rhan fwyaf o bobl leol Blaenau hefyd.
Agweddau Gobeithiol ar fywyd y fro Mae Ffestiniog yn adnabyddus iawn oherwydd y cysylltiad cryf gyda cherddoriaeth. Nid yn unig oherwydd llwyddiant mawr Band yr Oakley, Côr y Brythoniaid, a Chôr y Moelwyn ond hefyd oherwydd grwpiau modern, poblogaidd fel Anweledig, Estella, a Mim Twm Llai.
Person arall sydd wedi gwneud yn dda yn y busnes adloniant ydi Arwel Gruffydd. Mae newydd fod yn actio un o'r prif rannau yn Treflan, wedi ennill Baffta Cymraeg ac wedi ennill gwobr am ysgrifennu ffilm fer. Mae hefyd wedi bod yn actio rhan Bleddyn yn Cyw Haul, a gafodd ei ffilmio yn Llan Ffestiniog.
Gwelir yr ardal fel lle poblogaidd i ffilmio - Cyw Haul wrth gwrs, yn Llan Ffestiniog, First Knight yn Nhrawsfynydd, ac mae llawer o hysbysebion ceir wedi eu ffilmio yn y chwareli.
Cymuned glos iawn yw un y Blaenau ac mae'n un o'r trefi mwyaf Cymreig yng Nghymru. Mae'n wir fod ganddi lawer o broblemau ond rydwyf i yn falch iawn bod yn rhan o'r gymuned yma.
Mwy
|  |
 |  |
|