BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Lleisiau

BBC Homepage
»Radio Cymru
Cyflwynwyr
Digwyddiadur
Rhaglenni
Ar y Marc
Bwrw Golwg
C2
Clywch Clywch
Eileen
Geraint Lloyd
Siân Thomas
Talwrn
Taro'r Post
Gwybodaeth am Radio Cymru
BBC Cymru'r Byd
Chwaraeon
Newyddion
Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Llên
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

DewiDewi James
yn sgrifennu am ddiweithdra a'i effaith ar y Blaenau






Effaith diweithdra ar yr ardal -yn enwedig ar ieuenctid
Mae diweithdra yn broblem fawr yma ym Mlaenau Ffestiniog. Mae'n gorfodi nifer fawr i symud o'r ardal i gael gwaith. Mae pobl ifanc sydd yn gorffen eu haddysg yn disgwyl cael gwaith gyda chyflog da ond gan nad oes digon o waith ar gael yma maent yn symud i ffwrdd i gael gwell cyflog a gwell bywyd.


Atomfa Trawsfynydd Un enghraifft yw'r pwerdy niwclear oedd yn Nhrawsfynydd. Pan agorodd y pwerdy symudodd nifer fawr i mewn i'r ardal ond nawr mae'r atomfa wedi cau, ac felly symudodd y rhan fwyaf o'r gweithwyr i lawr i Gaint. Fel hyn mae teuluoedd yn chwalu a phobl yn colli cysylltiadau gyda'r ardal. Oherwydd bod pobl yn symud i ffwrdd maent yn colli'r arferiad o siarad Cymraeg.

Problem fawr ieuenctid y fro yw diflastod. Does dim i bobl ifanc wneud ar fin nos. Mae ieuenctid wedi dod i arfer mynd i helynt gyda'r gyfraith yma. Felly mae rhai yn trio creu hwyl a rhywbeth i'w wneud sef fandaleiddio.
Siopau lleol sydd yn ei chael hi waethaf. Mae llawer iawn o bobl ifanc yn yfed ar y stryd a rhai yn mentro chwarae gyda chyffuriau. Mae rhai yn penederfyn dwyn ac er mai pethau mân maent yn eu dwyn ar hyn o bryd, gallent symud ynlaen i ddwyn pethau llawer mwy wrth fynd yn hyn.

Gwelwch felly mai fy safbwynt i yw y bydd ardal Ffestiniog o fewn can mlynedd yn diflannu'n ddim oni bai bod newid mawr yma. Nid oes dyfodol i bobl ifanc yn yr ardal. Felly rwyf yn gobeithio y cytunwch fod angen newidiadau yma neu chwalu a marw yn ddistaw fel y chwareli gynt fydd hanes yr ardal.


Mwy


News image


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy