BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Lleisiau

BBC Homepage
»Radio Cymru
Cyflwynwyr
Digwyddiadur
Rhaglenni
Ar y Marc
Bwrw Golwg
C2
Clywch Clywch
Eileen
Geraint Lloyd
Siân Thomas
Talwrn
Taro'r Post
Gwybodaeth am Radio Cymru
BBC Cymru'r Byd
Chwaraeon
Newyddion
Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Llên
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Edrych drwy'r twll yn y llechen sydd i'w gweld o hydChwedl Blodeuwedd
Fflur Williams yn olrhain chwedl Blodeuwedd fel mae'n cael ei hadrodd yn y Mabinogion




Cafodd Lleu Llaw Gyffes ei felltithio gan ei fam, Arianrhod, na fyddai byth yn cael gwraig "o'r genedl sydd ar y ddaear".

Er mwyn i Lleu fedru cael gwraig, creodd Gwydion a Math fab Matholwch ferch wedi ei gwneud o naw math o flodau derwen, y banadl ac erwein a'i galw hi yn, Blodeuwedd.

Fflur Williams sy'n dweud y storiUn diwrnod, pan oedd Lleu oddi cartref, galwodd Gronw Pebr, Arglwydd Penllyn, yn y llys ac y mae Blodeuwedd yn syrthio mewn cariad ag ef ar yr olwg gyntaf.

Maent yn cynllwynio i ladd Lleu ond yn gyntaf rhaid i Blodeuwedd ddarganfod gan Lleu yn gyntaf sut mae gwneud hynny oherwydd dim ond dan amodau arbennig iawn y gellir ei ladd.

Mae o'n datgelu, "Ni ellir fy lladd i mewn ty nac oddi allan ac ni ellir fy lladd ar gefn march na phan wyf ar droed."

I'w ladd rhaid defnyddio gwaywffon.

Ond mae enw mwy na hynny hyd yn oed gan fod yn rhaid i Lleu seftyll gydag un droed ar gafn neu faddon ar lan afon a'r droed arall yn gorffwys ar gefn bwch gardd. "Pwy bynnag a'm trawo yr adeg honno fe fydd yn fy lladd," meddai.

Cerdded tuag at Domen y MurMae Blodeuwedd yn trosglwyddo'r wybodaeth hon i Gronw sy'n creu y waywffon ac ymhen y flwyddyn mae Blodeuwedd yn trefnu fod Lleu yn sefyll yn y fath fodd a ddisgrifwyd ganddo ar lan Afon Cynfal.

Daw Gronw o gyfeiriad Bryn Cyfergyd, taflu'r waywffon ond er iddi ei daro nid yw hwnnw'n marw ond yn troi'n eryr a dianc i ardal Nantlle (Nant Lleu).

Mae Gronw a Blodeuwedd yn cydfyw a meddiannu Ardudwy.

Pan yw'n dychwelyd yn ddiweddarach er bod Blodeuwedd a'i morynion yn ffoi dros Afon Cynfael mae Gwydion yn ei dal hi a'i throi'n dylluan a'i gorchymyn i beidio byth a dangos ei hwyneb yn ystod y dydd. Ei thynged yw bod yn elyn i'r holl adar.

Mae Lleu yn lladd Gronw er i hwnnw ddefnyddio maen fel tarian i achub ei hun rhag gwaywffon Lleu.


News image


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy