BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Lleisiau

BBC Homepage
»Radio Cymru
Cyflwynwyr
Digwyddiadur
Rhaglenni
Ar y Marc
Bwrw Golwg
C2
Clywch Clywch
Eileen
Geraint Lloyd
Siân Thomas
Talwrn
Taro'r Post
Gwybodaeth am Radio Cymru
BBC Cymru'r Byd
Chwaraeon
Newyddion
Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Llên
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Rosie, ar y dde, a dwy o'i ffrindiau ar y daithCrynodeb o Daith y Mabinogion
Taith Cwm Cynfal ac ardal y Mabinogi yng nghwmni Geraint V. Jones gan Rosie Young.




Aethon ni i ddechrau ar y ffordd i'r Bala ac fe welon ni Sarn Helen, y ffordd oedd yn mynd o Fryn Castell, lle'r aeth Blodeuwedd pan oedd hi yn dianc oddi wrth Gwydion a Lleu reit i lawr i Drawsfynydd ac yn bellach.

Aethon ni wedyn i Tomen y Mur lle roedd llys Lleu a Blodeuwedd. Mae gan yr enw Blodeuwedd gysylltiad efo'r gair tylluan.
Yn y cae o gwmpas y bryn roedd parêd Rhufeinig yn cael ei gynnal flynyddoedd yn ôl. Roedd Gronw Pebr, Arglwydd ar Ben Llyn, yn hela carw o gwmpas Craig Wen pan wnaeth Blodeuwedd ac ef gyfarfod y noson honno.
Ar y pryd roedd Lleu wedi mynd i weld Math.

Cyn i Gastell Lleu gael ei adeiladu yn anrheg gan Math, roedd baddonau Rhufeinig ger y lle, ac mae'r bryn y gwnaethon ni ei weld wedi cael ei wneud allan greigiau mawr.

Fe aethon ni at lan Afon Cynfal i weld y maen gyda'r twll a ddefnyddiodd Gronw Pebr i arbed ei hun rhag gwaywffon Lleu ond aeth y wawyffon drwy'r maen a tharo Gronw yn ei gefn.

Fe welon ni Fryn Cyfergyd lle'r aeth Gronw Bebr i guddio rhag Lleu ac efallai, meddai Geraint V Jones, fod Lleu wedi taro Gronw Bebr o Fryn Saeth, rhyw ddwy filltir o lle'r oedd o'n cuddio.
Ar ymyl Afon Cynfal casglodd Blodeuwedd ei milwyr pan wnaeth hi ddianc rhag Gwydion, ac mewn un fersiwn o'r stori pan ddaeth Gwydion ar ôl y milwyr roedden nhw wedi troi i edrych arno tra roedden nhw yn rhedeg ac oherwydd hyn fe wnaethon nhw ddisgyn i mewn i'r Llyn a boddi a dyna sut cafodd Blodeuwedd ei dal.

I orffen y daith cawsom gyfweliad gyda Hywel Gwynfryn ar gyfer Radio Cymru. Mi wnaethon ni fwynhau y daith hon yn ofnadwy. Diolch yn fawr i Miss Edwards, ein hathrawes Gymraeg, am drefnu, - i Geraint Vaughan Jones am ein harwain a dysgu llawer i ni, i Robyn Williams, athro T.G.CH yr ysgol am holi, ffilmio a thynnu pob math o luniau! a diolch arbennig i Glyn Evans o BBC Cymru'r Byd am y syniad o roi'r daith ar y wefan.


News image


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy