Sadwrn Stomp Yr oedd dydd Sadwrn Mehefin 14 yn ddiwrnod o brysurdeb a hwyl yn Sgwar Diffwys, Blaenau Ffestiniog. Dyma dri tudalen o luniau a dynnwyd yn ystod y dydd.
Ar y diwrnod yr oedd llwyfan BBC Radio Cymru yn gyforiog o dalentau lleol yn amrywio o'r traddodiadol i'r cwbwl gyfoes gyda'r prynhawn yn cyrraedd ei uchafbwynt gyda finale o dalentau lleol.
Ymwelodd lluoedd o bobl y Blaenau a'r Sgwar yn ystod y prynhawn gan roi cychwyn gwych i bythefnos o ddarlledu lleol sydd yn rhan o gynllun LLeisiau yn yr ardal.