
 |  | Pigion Llanelli Sir Gaerfyrddin ym methu darparu addysg Gymraeg i blant ag anghenion arbennig |
Does dim hawl gan blentyn ag anghenion addysgol arbennig i addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Dyna farn Ethni Jones mewn cyfarfod o Rhieni dros Addysg Gymraeg pryd y trafodwyd Gofynion Addysg Anghenion Arbennig drwy Gyfrwng y Gymraeg ar faes Eisteddfod Llanelli. Ac yr oedd y feirniadaeth o ddiffyg darpariaeth Sir Gaerfyrddin - y sir gyda’r nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg yn arbennig o finiog.
"Mae’n ofnadwy bod cynifer o blant ag anghenion arbennig yn colli’r pleser o fod yn rhan o’r bywyd Cymreig a Chymraeg," meddai Ethni. "Mae’r plant yma yn aml iawn yn fwy cyfoethog ac yn fwy sensitif na ni. Mae’r awdurdodau’n dweud bod rhaid gwrando ar y dioddefwyr. Ni yw llais y dioddefwyr - a dydyn nhw ddim yn gwrando arnon ni."
Y brif siaradwraig yn y sesiwn oedd Mari Jones o Lanelli a chanddi fab, Trystan, sy’n 13 oed ac yn diodde o Tuberous Sclerosis sy’n peri ei fod yn diodde o epilepsi, awtistiaeth a diffyg dysgu dwys.
"Y problemau a’r gofid a’r anhawsterau addysgol mwyaf yw’r ffaith mai Cymro Cymraeg yw Trystan - a’i fod yn byw yn y sir hon, Sir Gaerfyrddin!" meddai Mari. "Yn 1989 cynigiwyd lleoliad Addysg Arbennig Saesneg i Trystan. Penderfynon ni wrthod hyn ac anfon Trystan i Ffrwd Gymraeg Ysgol Feithrin Rhydaman.
"Ers Hydref 1992 mae Trystan a’i ofalwraig wedi mynychu Ysgol Gynradd Nantgaredig gyntaf yn yr Uned Iaith Fabanod, ac yn dilyn hyn, wedi brwydro’r rhieni agorwyd Uned Iaith Iau ym Medi 1995.
"Mae’r unedau yn ddelfrydol o safbwynt y plant, yn llenwi’r bwlch i blant ag anghenion arbennig - yn rhoi y ddarpariaeth Gymraeg y mae plant y brif ffrwd yn ei dderbyn yn rheolaidd."
Ond oherwydd methiant yr Awdurdod Addysg Lleol i gynllunio ymlaen a darparu addysg arbennig cyfrwng Gymraeg i blant wedi 11 oed, mae Trystan - sy bron yn 14 oed - ar fin cychwyn ei drydedd flwyddyn ychwanegol yn Uned Iaith Iau Nantgaredig.
Cafodd rhieni pedwar o blant Uned Iaith Iau Ysgol Nantagredig addewid gan y Cyfarwyddwr Addysg, Keith Davies bryd hynny, y byddai’r plant yn cael mynychu "ysgolion uwchradd eu dalgylch wedi un-ar-ddeg oed a byddai’r ysgolion hynny yn darparu ar gyfer y plant".
Aeth dwy flynedd heibio a pharhau y mae’r trafod, meddai Mari James. "Rydym yn dal heb ddehongliad o beth yn gwmws sydd i gael ei sefydlu" meddai.
"I blant di-Gymraeg y sir mae darpariaeth gyflawn yn bod eisoes mewn Ysgolion ac unedaau ffurfiol Saesneg. Mae dwy ysgol arbennig Saesneg a phymtheg o unedau arbennig ffurfiol Saesneg yn y sir.
"Pe bai Trystan yn ddi-Gymraeg byddai’r ddarpariaeth addas mewn bodolaeth ar ei gyfer ac ni fyddai gofid cyson a’r straen aruthrol arnom. Y sir hon sydd â’r boblogaeth fwyaf o Gymry Cymraeg a rydym yn dal heb ddarpariaeth ffurfiol cyfrwng Cymraeg i blant dros un-ar-ddeg ag anghenion addysg arbennig.
"Mae ein plant dan ddigon o anfantais yn barod ac y maen nhw yn cael eu cosbi ymhellach os na cheir addysg addas iddynt drwy gyfrwng eu mamiaeth.
"Roedd Trystan yn wyth mis oed pan ddarganfuwyd ei fod yn diodde o Tuberous Sclerosos. Y cyngor gawson ni bryd hynny oedd i siarad Saesneg ag e am nad oedd unrhyw sicrwydd y byddai darpariaeth Gymraeg ar gael ar ei gyfer.
"Nawr yn y Mileniwm newydd mae rhieni â babanod ag anghenion arbennig yn parhau i glywed yr un cyngor yn Sir Gaerfyrddin." Safle swyddogol yr Eisteddfod http://www.eisteddfod.org.uk/ Y canlyniadau Diweddaraf o'r Maes http://www.eisteddfod.org.uk/ [an error occurred while processing this directive]
|  | 
| [an error occurred while processing this directive] |
|