bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru'r Byd

News image

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd

»Adloniant
Ffilm
Llais Llên
Radio Cymru
Sîn Roc
Teledu
Theatr
Y Sêr
Ffeil

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


tebot

Cerdd o debot

Ar faes y sosban!
[an error occurred while processing this directive]

Chwilota mewn siop hen bethau yn Saint Louis, Missouri, yr oedd Jon Dressel pan ddaeth o hyd i debot a wnaed yn Llanelli i ddathlu Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 1930. Yr oedd y darganfyddiad yn ysgytwad iddo. Heblaw’r ffaith i Dressel dreulio cyfnod yn darlithio mewn llenydda creadigol yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, iddo bron ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol gyda phryddest a luniwyd ar y cyd gyda T. James Jones, yr oedd ei hynafiaid yn dod o Lanelli.

tebotBu dod o hyd i’r tebot melyn-frown yn sbardun i Dressel lunio cerdd yn dyfalu hanes y tebot a luniwyd i ddathlu Eisteddfod 1930. Mae llun cyfarwydd o Neuadd y Dref, Llanelli, ar un ochr. Telynores mewn gwisg Gymreig, "clogwyni noethlym yn gefnlen iddi", rhuban ac arno’r geiriau "Eisteddfod Genedlaethol Llanelli", corn a’r flwyddyn, 1930 o tano, ar yr ochr arall.

Ar gaead y tebot ceir arfbais y dref â’r arwyddair "Ymlaen Llanelli". Prynodd Jon Dressel y tebot yn ddiymdroi - heb ddadlau am y pris. Heddiw mae’r tebot wedi gwneud ei daith gron ac adre yn ôl yn Llanelli, ym Mhabell Gwasg Gomer ar Faes yr Eisteddfod.

Nid hynny yn unig hynny. Mae cerdd Jon Dressel, â ysbrydolwyd gan y tebot, wedi’i hargraffu ochr yn ochr a fersiwn Cymraeg ohoni gan T. James Jones, mewn pamffled "Rhubanau Dur / Ribbons of Steel" a’i chyhoeddi gan Wasg Gomer. Yno yn y stondin mae’r pentwr pamffledi ochr yn ochr â’r tebot.

Cerdd sy’n tynnu ynghyd fyfyrion am Ynys Ellis, lle cedwid a phroseswyd mewnfudwyr yn Harbwr Efrog Newydd, cyn caniatau - neu wrthod - iddyn nhw’r hawl i fod yn ddinasyddion yr Unol Daleithau. Ceir cyfeiriad ynddi at William McKinley, 25ed Arlywydd yr Unol Daleithau, a lofruddiwyd yn 1901 chwe mis wedi ei ethol am ail gyfnod.

Yr oedd McKinley yn gredwr mewn tollau mewnforio uchel. Bu hynny yn fodd i ddileu y farchnad i ddur ac alcam o Gymru yn yr Unol Daleithau. Collodd amryw o weithwyr dur Cymru eu gwaith. Nid cyd-ddigwyddiad oedd fod llawer o felinau dur newydd yn cael eu hadeiladu yn yr Unol Dalethau ar y pryd. Roedd ‘Melltith McKinley’ yn ymadrodd cyffredin yng Nghymru yn ystod naw degau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Cyhoeddir "Rhubanau Dur/Ribbons of Steel" gan Wasg Gomer, pris £5.00. [an error occurred while processing this directive]

 

Safle swyddogol yr Eisteddfod
http://www.eisteddfod.org/
[an error occurred while processing this directive]

News image
Steddfod Llanelli 2000

Tro i'r Sosban -adroddiadau o'r Eisteddfod
Llunelli- lluniau yn syth o faes y brifwyl
Tref y Sosban - hanes tre'r Eisteddfod
Llanelli ar y we - ymwelwch â'r Fro arlein

Llanelli 2000
BBC
© MM