bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru'r Byd

News image

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd

»Adloniant
Ffilm
Llais Llên
Radio Cymru
Sîn Roc
Teledu
Theatr
Y Sêr
Ffeil

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Llanelli 2000Pigion Llanelli
Colli Owain Glyndwr Ond Myn Duw fe wn y bydd yma drwy'r wythnos

@ Owain Glyndwr
@ Maes Mawr
@ Stepo Mas

gan Glyn Evans o Lanelli

Myn Duw mi a wn y daw.

Ond am ugain munud i unarddeg doedd yna ddim golwg o Owain Glyndwr er bod mab enwocaf Cymru erioed wedi darogan ein cyfarfod am hanner awr wedi deg.

Erbyn gweld, yr oedd Owain wedi bod ac wedi mynd a ninnau, dyrnaid o Gymry’r wasg, wedi colli’r cwch am inni gael yr amser anghywir.

Ein hen, hen, hanes fel petai.

Ond bydd cyfle eto yn ystod yr wythnos.

Yn wahanol i’r Owain go iawn nid i niwl y gorffennol y diflannodd y gwr talgryf presennol sy’n chwarae ei ran bob bore a phnawn ar Faes Eisteddfod Llanelli.

Rhan o ddathliadau - a than yr amgylchiadau mae’n debyg fod hwnnw gystal gair a’r un - chwe chanmlwyddiant dechrau gwrthyfel yr enwocaf o arwyr y Cymry yw Cornel Owain Glyndwr ar y y maes.

Neu yr Owain Glyndwr Paddock yn Saesneg.

Ac yn y gornel gydol yr wythnos mae dynion yn nillad milwyr y cyfnod arwrol hwnnw yn arddangos eu crefft gyda cheffylau a phicelli.

Wwww, meddai’r dyrfa fechan wrth i waywffon fynd yn syth drwy sachaid o wellt ar ffurf Sais. "E, really gorrim that time," meddai gwraig mewn oed gyda mwy nag ychydig edmygedd.

"Da chi newydd i golli fo’n syrthio oddi ar ei geffyl," meddai dyn gan gyfeirio at fy nghamera.

Gweithgarwch dan adain Cymru’r Milflwydd ydi Dychweliad Owain Glyndwr gyda pherfformiadau ymladd am dri y prynhawn a chyfle i weld arferion hela’r cyfnod am unarddeg y bore gyda hebog yn hedfan drwy’r awyr yn chwilio am ysglyfaeth. Heddiw mae na gi hirflewyn, swnllyd, hefyd.

Ond yn y gwyr meirch a’u picelli hirion yr oedd y diddordeb pennaf ac Owain yn gorymdeithio gyda’r Ddraig Goch.

Cwmni Archaic Pursuits and Events o Gwmtwrch Uchaf yw’r bobl hyn pan eu dillad bob dydd - ac yn cwyno eu bod nhw’n cael mwy o waith yn Lloegr nag yng Nghymru.

Yn cefnogi’r ddigwyddiad y Mae Terry Jackson, o Finchley, cyn iddo symud i’r Traws lle mae’n cyhoeddi papur ymwelwyr, Wythnos Yma.

Mae o’n gweld y chwe chanmlwyddiant yn arf twristaidd pwysig gan ddadlau y gellir ei ddefnyddio heb iselhau hanes ein cenedl.

Maes a hanner
a thipyn dros ben!

"Dwedwch nawr - hwn yw’r Maes Steddfod gorau a welsoch erioed."

Mae yna falchter mawr yn lleol fod Llanelli wedi darparu Maes Steddfod na welwyd ei debyg erioed o’r blaen ar gyfer y Genedlaethol.

"Pe bydden nhw’n chwilio am faes parhaol - fydde dim ishie ei well," ychwanegodd y dyn oedd yn loetran ger pabell Cyngor Llyfrau Cymru.

Yn sicr, y ddau air mae rhywun yn eu clywed amlaf i ddisgrifio Maes Llanelli yw Mawr a Gwahanol.

Ac y mae o y ddau beth yna ac wedi ei rannu yn dri o gaeau crynion.

Cae’r pwll lle mae pethau fel y Babell Lên a Theatr Fach y Maes, Cae’r Graig yn y canol gydag amffitheatr a safle Clwb rygbi Llanelli - yna cae a enwyd ar ôl un o fawrion y Clwb hwnnw, Cae Carwyn, lle mae’r prif Bafiliwn a’r Babell Gelf a Chrefft - wedi eu gwthio o’r neilltu braidd.

Yn gynnar bore Sadwrn yr oedd rhai yn cwyno ei bod yn bell o un pen i’r llall gydag adroddiadau am gyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, nid yn unig yn defnyddio beic i fynd o le i le ond beic sy’n mynd ar fatris!

Gyda’r m’nwod
Atyniad poblogaidd ar y Maes bnawn Sadwrn oedd dawnsio stepen.

Fel y dwedodd un wraig wrth un arall; "Rwy di gadael y gwr i wilo’r Step Dancing. Ma fe wrthi fodd."

 

Safle swyddogol yr Eisteddfod
http://www.eisteddfod.org.uk/

Y canlyniadau Diweddaraf o'r Maes
http://www.eisteddfod.org.uk/
[an error occurred while processing this directive]

News image
Steddfod Llanelli 2000

Tro i'r Sosban -adroddiadau o'r Eisteddfod
Llunelli- lluniau yn syth o faes y brifwyl
Tref y Sosban - hanes tre'r Eisteddfod
Llanelli ar y we - ymwelwch â'r Fro arlein

Llanelli 2000
[an error occurred while processing this directive]
Chwaraewch
Ydych chi'n gêm?
Profwch eich hun gyda gemau, cwisiau a chystadlaethau

Chwaraewch
BBC
© MM