Cyngerdd olaf (honedig) Dafydd Iwan ym Mhafiliwn yr Eisteddfod nos Lun. Mari Jones-Williams fu yno.
Hwyl - am y tro
"Anhygoel."
"Doedd o’n grêt."
"Dydi o’n dal yn shit-hot?"
Heb gael fy nylanwadu gan unrhyw sylwadau a glywyd ar ddiwedd y nos, dyma fi (gan deimlo yn hynod o annheilwng) yn adolygu Perfformiad Olaf Erioed gan dad cerddorol y genedl, Dafydd Iwan.
Yn cymryd rhan hefyd ar yr un llwyfan roedd Ar Lôg a Chôr Meibion Llanelli.
Rhyngthoch chi a fi mae gen i’r ddawn i gael fy ngwefreiddio gymaint gan gôr meibion ac unrhyw beth. Mi gewch chi gadw eich band roc mewn stadiwm enfawr, eich cerddorfa rwysgfawr mewn neuadd wych, rhowch i mi swyn yr ystrydebol gôr meibion a dwi’n gorfoleddu.
A dyna paham y cefais fy hun ym Mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli, nos Lun, yn dafod-sych, iasau nodwydd i lawr fy nghefn ac mewn rhyfeddod llwyr yn gwrando ar agorwyr y noson, Côr Meibion Llanelli.
Ac am agoriad! Fel yr offeryn mwyaf pwerus, mwyaf ufudd, fe floeddiodd, cannodd a gwefreiddiodd y côr a’i ddatganiad. Cyweirnod perffaith? Disgyblaeth gerddorol lwyr? Pwy yw meidrolyn fel fi i ddadlau gyda nerth fel yr hyn a gafwyd o’r llwyfan. Roedd y gynulleidfa enfawr yn amlwg wrth ei bodd hefyd a balchder yn amlwg yng nghefnau talsyth pob un o aelodau’r côr.
Ray Gravell oedd yn arwain gyda’r anwyldeb a’r hoffter arferol yn ei lais bloesg. Ac wrth iddo gyflwyno’r rheswm dros bresenoldeb y rhan fwyaf o bobl roedd y gymeradwyaeth yn fyddarol. Cafodd y ffigwr cyfarwydd groeso tywysogaidd wrth gamu yn wên i gyd ar lwyfan y brifwyl.
Mewn un gair, gwefr oedd yr hyn a ddilynodd. Fe ganodd ganeuon o bob cyfnod a’r rhan fwyaf o’r gynulleidfa yn ei morio hi i’r mwyafrif ohonyn nhw.
O ran adolygu, mae’n anodd gwybod beth i’w ddweud. Mae’n ymddangos bron y gallai Dafydd Iwan eistedd ar stôl yn darllen yr Illiad yn y gwreiddiol a dal i lenwi pafiliwn eisteddfod.
Ond wnaeth o ddim. Yr hyn wnaeth o oedd yr hyn mae o yn ei wneud orau, canu. Ei lais cynnes, cyfarwydd. Yn llifo’n gynnes, gyfarwydd, yn iasol-angerddol a chyffrous.
Yn dilyn rhan gyntaf perfformiad Dafydd Iwan daeth Ar Lôg ar y llwyfan yn wych a bywiog gan godi clapio a thraed mân a mawr yn clocsio’n swnllyd o dan y seddi.
Datganiad gwefreiddiol arall, os rhyw fymryn lleia’n hir, gan Gôr Llanelli a dyna ddychweliad y dyn ei hun. Roedd bloeddio i Bod yn Rhydd, ochneidiau i Esgairllyn a dagrau i Hawl i Fyw.
Roedd seiliau’r pafiliwn yn ysgwyd a’r seti plastig yn siglo gyda bonllefau ddiwedd y cyngerdd.
Ac yn chwys y cytgan; yng ngwynt y dyrnau-yn-yr-awyr; yng ngwefr y diolch a’r gwerthfawrogiad o un y dysgais fy nghariad at iaith, fy mharch at aberth a fy nghordiau pathetig cyntaf o gitâr ganddo, mi sleifiais allan, yn ymwrthod yn llwyr a’r syniad mai hon oedd diwedd y gân. Dafydd, ni fi a\greodd y dywediad, ond heno, fel erioed, roeddet ti yn ‘shit-hot."
Safle swyddogol yr Eisteddfod
http://www.eisteddfod.org.uk/
Y canlyniadau Diweddaraf o'r Maes
http://www.eisteddfod.org.uk/