bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru'r Byd

News image

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd

»Adloniant
Ffilm
Llais Llên
Radio Cymru
Sîn Roc
Teledu
Theatr
Y Sêr
Ffeil

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Llanelli 2000Pigion Llanelli
Yr holl ffordd o San Jose i faes y Steddfod

Os ydych chi’n byw yn Silicon Valley - hyd yn oed os ydych chi’n 78 oed - fedrwch chi ddim peidio deall a gwybod y cwbl am y we ac am gyfrifiaduron.

"Ond chi’n gwpod, wi’n meddwl mai rhywbeth sy’n pellau pobol wrth ei gilydd ddim ein tynnu ni’n nes, yw’r we" meddai Megan Davidson (Jones gynt).

"Ond pidwch gweud bo fi’n gweud hyn’na. Bydd pobol yn gweud mai hen wraig sy’n siarad nawr."

Megan DavidsonCymrodd gipolwg ar y newyddion diweddara ar BBC Cymru’r Byd, ac ymlaen â hi drwy gyfrwng y we i weld sawl neges e-bost oedd yn disgwyl amdani.

Saith o negeseuon newydd ers iddi edrych dddwetha yn gynharach yn y bore. Dydy diwrnod - neu wythnos i fod yn fanwl - ar faes Eisteddfod Genedlaethol Llanelli a’r Cylch ddim yn rheswm dros dorri cysylltiad â byd mawr Silicon Valley.

Nac â bywyd Cymreig prysur y dyffryn.

Ac mae Megan yn ddynes brysur yng nghylchoedd Cymreig San Jose, California. Hi yw Cyfarwyddwr Diwylliannol Gwyl Cymru 2001 (arwyddair, O ddyffrynnoedd Cymru i’r dyffryn silicon). A’r flwyddyn nesaf cynhelir 70fed Cymanfa Ganu’r Unol Daleithau a Chanada.

Mae dros 3,000 yn dod bob blwyddyn i’r Gymanfa - does ryfedd bod rhes o e-byst am ei sylw.

Bydd Côr Meibion Llanelli yn mynd allan yno y flwyddyn nesaf i ychwanegu at y mmôr o leisiau cymanfaol.

Ac arweinydd y côr, Eifion Thomas, fydd yn arwain y Gymanfa, hefyd. Mwy fyth o reswm pam fod y ddynes fach fywiog o Gydweli yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf.

"Rydyn ni wedi agor tamed bach ar yr wyl erbyn hyn a ni’n croesawu’r Celtiaid eraill i’n gwyl," meddai. "Mae gan Yr Albanwyr yr holl fandiau pibau yna, ond rwy’n credu bydd y Cymry’n eu boddi nhw gyda’n canu."
Mae hi’n gyn-lywydd The Welsh American Society of Northern California sy’n bodoli i hybu a hyrwyddo Cymru, ei hanes, diwylliant a’i threftadaeth yng Ngogledd Califfornia. Mae hi’n cynnal gwersi dysgu Cymraeg yno. Ac mae hi’n edrych ymlaen at ddiwrnod Cymru a’r Byd ddydd Iau.
Ond uwchlaw popeth mae’r ferch o Gydweli yn mwynhau bod yn ôl yn ei chynefin. Er iddi ymadael â Chymru hanner can mlynedd yn ôl mae wedi llwyddo i ddychwelyd i Gymru a’r Eisteddfod Genedlaethol bron yn flynyddol ers hynny. Yn glod i’w dycnwch a’i dyfalbarhad yw iddi gael ei hanrhydeddu â Gwisg Werdd yr Orsedd.

Perfformio a threfnu yw ei byd. "Pan oeddwn i’n fach roedd cwmni o Lundain - cwmni Queenie Barratt yn dod lawr bob blwyddyn i Lanelli i berfformio ddramâu. Pedwar ohonyn nhw oedd yn y cwmni ond fe fydden nhw’n cyflwyno dramau eitha cymhleth - bob un yn whare sawl cymeriad. A weithie bydden nhw’n gofyn i fi whare rhanne. Leicen i ymchwilio i hanes y cwmni yna - a’i sgrifennu fe.

"Doedd nhad ddim yn licio’r syniad mod i’n mynd yn actores a fe ges i fy nghyfeirio at fod yn nyrs. A dyna shwt gwrddes i â’r gwr, oedd yn ddoctor. Fe aethon ni i fyw i’r Unol Daleithau, cael chwech o blant a fan’ny wy wedi aros."

Mae hi wedi cael cyfle i wneud peth actio a mwy o gynhyrchu. Cynhyrchu yw ei diddordeb - sy’n amlwg gyda’r gwaith y mae’n ei wneud fel un o brif drefnwyr y bywyd Cymreig a Chymraeg yn San Jose.

Cafodd hyd i Hywel Gwynfryn, neu fe gafodd e hyd iddi hi. A thra roedd Hywel yn trefnu i’w chyfweld ar gyfer Radio Cymru roedd hithau’n cael addewid wrth Hywel y bydd yn arwain Noson Lawen yn San Jose y flwyddyn nesaf.

A rhag ofn y byddwch am fynd allan i California i ymuno yn yr hwyl, cynhelir y Festival of Wales 2001 ar y penwythnos Awst 29 - Medi 1. Ei gwefan yw www.walesfest2001.org

Hwyrach fod Megan wedi deall cyfrinach y dulliau newydd o gyfathrebu, defnyddio’r newydd ond heb anghofio’r hen ffyrdd. Cyfuniad bywiog, llawn hwyl o’r deubeth.

 

Safle swyddogol yr Eisteddfod
http://www.eisteddfod.org.uk/

Y canlyniadau Diweddaraf o'r Maes
http://www.eisteddfod.org.uk/
[an error occurred while processing this directive]

News image
Steddfod Llanelli 2000

Tro i'r Sosban -adroddiadau o'r Eisteddfod
Llunelli- lluniau yn syth o faes y brifwyl
Tref y Sosban - hanes tre'r Eisteddfod
Llanelli ar y we - ymwelwch â'r Fro arlein

Llanelli 2000
[an error occurred while processing this directive]
Chwaraewch
Ydych chi'n gêm?
Profwch eich hun gyda gemau, cwisiau a chystadlaethau

Chwaraewch
BBC
© MM