bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru'r Byd

News image

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd

»Adloniant
Ffilm
Llais Llên
Radio Cymru
Sîn Roc
Teledu
Theatr
Y Sêr
Ffeil

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Llanelli 2000Pigion Llanelli
Troi eto i'r enwog Faes B. Adroddiad gan Ffion Orwig.

Eleni eto, dyma benderfynu ymweld â’r enwog Faes B ar ôl diwrnod arall ar faes y Brifwyl yn Llanelli. Uchafbwynt y noson oedd perfformiad yr hogiau o’r Waunfawr ger Caernarfon - y Big Leaves. Yn eu cefnogi yr oedd Doli, Texas Radio Band, Sen ac Ashokan.

Mae safle’r enwog faes yn unigryw eleni. Am y tro cyntaf ers blynyddoedd hirfaith, cafwyd tir sych, di-fwd o dan draed a hynny mewn hen warws ynysig a honno wedi ei haddurno â phob math o ddelweddau graffiti lliwgar â’r bar yn rhedeg i lawr un ochr iddi. Gwych a gwahanol - dyna fy marn bersonol i.

Roedd arwynebedd y warws yn enfawr a chaeau o le i bawb a phopeth o dan yr un to. Syniad da drefnwyr!

Aeth y bedair llawen ar ddechrau’r noson yn ddeg o amgylch y bwrdd a phawb yn mwyhnau’r adloniant oedd yn bloeddio o’r llwyfan oedd wedi ei godi ym mhen pella’r warws. Ewadd, lle delfrydol i gyfarfod â ffrindiau nas gwelwyd hwy ers y Steddfod ddiwethaf.

Roedd ton swnllyd o bobl yn symud fel un i guriad caneuon gwefreiddiol megis Dydd ar ôl Dydd, Seithenyn a Hanasamlanast gan y Big Leaves ddiwedd y noson - pob un yn amlwg yn gwybod y geiriau i gyd!

Mae’r grwp bellach wedi sefydlu ei hun fel un o brif grwpiau Cymru ac mae eu dawn a’u harddull cerddorol yn rhedeg yn amlwg drwy’r holl ganeuon. Mae casgliad cofiadwy ar eu halbym ddiweddaraf, Pwy Sy’n Galw.

Daeth y noson i ben ar nodyn buddugoliaethus a phawb yn ymgasglu’n grwpiau toredig wrth ymlusgo’n drymaidd eu traed tuag at geg y warws a chiwio’n rhesi blêr ger y garafan sglodion a burgers.

Eraill wedyn yn mynd am dacsis ar eu hunion neu’n aros i ymddiddan ac i ffarwelio â chwmni tan y Steddfod nesaf.

A gyda siffrwd y cwpanau plastig o dan draed i’w glywed ar yr awel, yn llon a hwyliog yr aeth y pedair am adref ac atgof yr hen warws a’r hynod Faes B yn felys iawn yn y cof.

 

Safle swyddogol yr Eisteddfod
http://www.eisteddfod.org.uk/

Y canlyniadau Diweddaraf o'r Maes
http://www.eisteddfod.org.uk/
[an error occurred while processing this directive]

News image
Steddfod Llanelli 2000

Tro i'r Sosban -adroddiadau o'r Eisteddfod
Llunelli- lluniau yn syth o faes y brifwyl
Tref y Sosban - hanes tre'r Eisteddfod
Llanelli ar y we - ymwelwch â'r Fro arlein

Llanelli 2000
[an error occurred while processing this directive]
Chwaraewch
Ydych chi'n gêm?
Profwch eich hun gyda gemau, cwisiau a chystadlaethau

Chwaraewch
BBC
© MM