bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru'r Byd

News image

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd

»Adloniant
Ffilm
Llais Llên
Radio Cymru
Sîn Roc
Teledu
Theatr
Y Sêr
Ffeil

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


MaesRhodd Llanelli

Hel meddyliau ar ôl Eisteddfod i'w chofio.
[an error occurred while processing this directive]

"R’arglwydd - ma hwn yn uffar o le ryff," meddai gogleddwr mewn anghrediniaeth braidd wedi ei noson gyntaf yn Llanelli. "Welis di’r genod bach na efo gwalltia wedi strîcio a sgertia mor gwta mi…"

Dyna un olwg ar bethau.

Daeth yn amlwg yn gynnar iawn y byddai Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn un go arbennig.

Dydi o ddim yn rhywbeth sy’n digwydd yn aml, ond y mae rhywun yn cael y teimlad weithiau, dim ond rhoi ei droed o’r car ei fod mewn lle go arbennig.

Digwyddodd hynny i mi yn Llanelli ac atgyfnerthwyd y syniad eich bod ymhlith pobl gyfeillgar a thwymgalon gan gyfarchiad sgwrslyd glaslanc o stiward a oedd wrth ei waith yn gynnar y bore Sadwrn cyntaf.

Bydd yna lawer o sôn dros y misoedd nesaf am faint o les a wnaeth ymweliad yr Eisteddfod i Lanelli.

Ni ddylem anghofio pa mor llesol a fu Llanelli i’r Eisteddfod ac i eisteddfodwyr ychwaith.

Os rhoddodd yr Eisteddfod chwistrelliad o Gymreictod i Lanelli rhoddodd Llanelli, hithau, chwistrelliad o hawddgarwch, cyfeillgarwch a brwdfrydedd i’r Eisteddfod hefyd.

Pe na byddai ganddi gartref tan y flwyddyn 2007 byddem yn cerdded unwaith eto, yn fuan iawn, y maes eang a ddarparwyd ger ein bron achos yr oedd sôn yn gynnar yn yr wythnos am wneud yn Llanelli gartref parhaol i eisteddfod y de orllewin.

Ac er ehanged y maes yr oedd yn llawn i’w ymylon ddydd Gwener.

Methodd hyd yn oed pellter y maes parcio o’r maes a tharfu ar rin yr eisteddfod hon.

Er, fyddwn i ddim am i drefnwyr golli eu pennau efo bysus gwennol a meddwl bod eu hangen ym mhobman fel yr oedd ambell un yn tueddu i wneud.

Yn ei araith ef fel un o lywyddion yr Eisteddfod dywedodd Huw Edwards: "Mae gan dref Llanelli a’r cylch ran hanfodol i’w chwarae o ran sicrhau dyfodol y Gymraeg. Pebai ardal Llanelli yn colli’i Chymreictod, fe fyddai’n ergyd a allai fod yn farwol. Mae mor bwysig â hynny. Dyna pam rwyf mor falch o hanes y dref a’i record o gynnal Cymreictod naturiol ymhlith degau o filoedd o’i thrigolion.

"Mae’r ffaith fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld unwaith eto yn siarad cyfrolau. Fy ngobaith arbennig i heddiw yw y bydd y Brifwyl hon yn gadael mwy ar ei hôl na’r rhai blaenorol. Mae’r Genedlaethol yn gallu bod yn gyfrwng i gryfhau Cymreictod ardal ar ôl ymweld â hi. A hwyrach bod Llanelli yn y gorffennol wedi colli cyfle i fanteisio ar ei hymweliadau."

Un peth yn sicr a wnaeth yr ymweliad hwn oedd britho Saesneg yr ardal a geiriau Cymraeg gyda chwestiynau fel: "Did you get llwyfan?" a gosodiadau fel "He’s a tywysydd" a "She’s got a rhagbrawf at nine in the morning."

Roedd cynharwch rhagbrofion bob amser yn destun syndod!

Ond fel pe i gadarnhau gosodiad Huw Edwards ychydig o hen Gymraeg dafodiaethol, draddodiadol, yr ardal sydd i’w glywed erbyn hyn gyda geiriau lleol fel oifad am nofio wedi mynd - neu yn prysur fynd -- ar goll.

"Bydde hwn wedi bod yn gyfle gwych i gyhoeddi casglied ohonyn nhw," meddai ymwelydd â’r Maes.

Wejen neu sponer am gariad (benywaidd a gwrywaidd); tyle (gallt);
llimpro
(traflyncu); slabran (stompio); shincyn (bara te); toc (pishyn o fara, sandwij); wap (yn fuan); cafflo (twyllo); pwno a ribo (taro rhywun); hemo - hemad (curo rhywun); cleren (swaden); dished (cwpanaid); wilmentan (chwilio, prowla) . . .

I mi, bydd Eisteddfod Llanelli yn un nad anghofiaf byth.

Ac nid oherwydd imi ennill gwobr am beth mor annisgwyl â sgrifennu barddoniaeth ond, yn bennaf, oherwydd imi gael fy mwrw i fwrlwm yr ardal a’r Eisteddfod trwy rannu aelwyd â theulu lleol.

Nid yn unig yr oedd yr Eisteddfod wedi cymryd drosodd yr aelwyd honno ond yr oedd yr aelwyd hefyd yn adlewyrchiad o’r gobaith yn nyfodol Cymreictod yr ardal.

Y tad a’r fam o’r genhedlaeth honno a gollodd ei Chymraeg ond eu dau fab yn siarad yr iaith. Un ohonyn nhw yn treulio’i wythnos mewn pabell ar Faes B a’r llall, Lewis Roderick, yn dywysydd ac yn wyneb cyfarwydd ar lwyfan y pafiliwn - yn canu’r brif ran yn y sioe Joseff; yn dod yn fuddugol am ganu unawd ac yn aelod o grwp ensemble buddugol ac yn gobeithio gwneud gyrfa o ganu.

Diolch iddyn nhw ac i Lanelli am Steddfod wych.

[an error occurred while processing this directive]

 

Safle swyddogol yr Eisteddfod
http://www.eisteddfod.org/

Y canlyniadau Diweddaraf o'r Maes
http://www.eisteddfod.org/
[an error occurred while processing this directive]

News image
Steddfod Llanelli 2000

Tro i'r Sosban -adroddiadau o'r Eisteddfod
Llunelli- lluniau yn syth o faes y brifwyl
Tref y Sosban - hanes tre'r Eisteddfod
Llanelli ar y we - ymwelwch â'r Fro arlein

Llanelli 2000
BBC
© MM