bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru'r Byd

News image

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd

»Adloniant
Ffilm
Llais Llên
Radio Cymru
Sîn Roc
Teledu
Theatr
Y Sêr
Ffeil

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Llanelli 2000Tro i'r Sosban

Mynd ati i wneud cwilt Owain Glyndwr
.

Y mae Bethan Ash yn gobeithio y bydd ganddi gwilt addas i dywysog o Gymro erbyn dydd Sadwrn olaf yr Eisteddfod yn Llanelli yr wythnos hon.

Bethan, o Gastell-nedd yn wreiddiol ond yn awr yn byw yng Nghaerdydd, sydd yn gofalu am y gwaith o greu Cwilt Chwe Chanmlwyddiant Owain Glyndwr.

Mae’n gwneud y gwaith ym Mhabell Y Grefft ar Gae’r Pwll, ar y Maes.

Yn wneuthurwraig cwiltiau sydd wedi ennill gwobrau rhyngwladol y mae Bethan yn gobeithio y bydd y cwilt gorffenedig yn mesur saith troedfedd gyda phump ac yn cynnwys rhyw 30 o sgwariau unigol.

Y mae hi’n gwahodd aelodau o’r cyhoedd i gymryd rhan yn y gwaith ond bydd hi ei hun ar gael i ddangos iddynt sut mae gwneud y gwaith.

"Bydd rhyddid i bawb gynllunio ei sgwâr ei hun," meddai gan ychwanegu mai anghenion pennaf cwiltiwr yw llawer o ddychymyg a llawer o ddefnydd.

Ychwqanegodd y bydd ymylon y sgwarau unigol yn donnog er mwyn rhoi i’r gwaith gorffenedig yr argraff o faner yn chwifio yn yr awyr.

Clytwaith mympwyol (improvisional patchwork) yw enw y math o gwiltio y mae hi’n ei wneud.

Dechreuodd ymddiddori yn y gwaith bedair blynedd ar hugain yn ôl pan fu’n rhaid iddi dreulio tri mis mewn ysbyty.

"Gofynnodd ffrind imi a fyddwn i’n gwneud cwilt ar gyfer ei babi. Erbyn i’r tri mis ddod i ben yr oeddwn wedi gwneud layette cyfan i’r babi," meddai.

Cynyddodd ei diddordeb yn aruthrol ers hynny a bu’n astudio cwiltio Americanaidd.

Mae ei chartref yng Nghaerdydd yn orlawn o wahanol fathau o ddefnyddiau.

Enillodd un cwilt y mae’n ei arddangos yn Llanelli wobrau cyntaf ym Mhencampwriaeth Cwlitio Ewrop yn yr Iseldiroedd yn 1997. Fe’i hysbydolwyd gan waith yr arlunydd Klimpt.

Fel cynllunydd dillad y cychwynnodd Bethan a bu’n gweithio i wneuthurwr dillad blaenllaw.

Dywedodd mai lliw yw hud cwiltio iddi hi.

"Pan wy’n dechrau gwneud cwilt rwy’n mynd at y defnyddiau ac y mae un lliw yn gweiddi arnaf i. Lliw sy’n fy sbarduno i ac mae’n fy nhynnu mewn ffordd uniongyrchol. Y mae gan bob lliw ei gymeriad a’i amrywiaeth arbennig. Mae yna dros 50 o wahanol fathau o goch er enghraifft," meddai.

Bydd y Cwilt Owain Glyndwr, ar ôl cael ei gwblhau, yn cael ei arddangos yn Sain Ffagan.

Bydd llun gyda’r stori hon ddydd Llun.

 

Safle swyddogol yr Eisteddfod
http://www.eisteddfod.org.uk/

Y canlyniadau Diweddaraf o'r Maes
http://www.eisteddfod.org.uk/
[an error occurred while processing this directive]

News image
Steddfod Llanelli 2000

Tro i'r Sosban -adroddiadau o'r Eisteddfod
Llunelli- lluniau yn syth o faes y brifwyl
Tref y Sosban - hanes tre'r Eisteddfod
Llanelli ar y we - ymwelwch â'r Fro arlein

Llanelli 2000
[an error occurred while processing this directive]
Chwaraewch
Ydych chi'n gêm?
Profwch eich hun gyda gemau, cwisiau a chystadlaethau

Chwaraewch
BBC
© MM