Dyddiadur Dydd Mercher gan Glyn Evans
@ Lladron Steddfodol
@ Stiwardiaid hynaws
@ Beirniaid hirwyntog
@ Brain ynteu gwenoliaid?
Yr ydw i wedi meddwl erioed am Eisteddfodwyr fel pobl onest.
Ond dydi hynny ddim bob amser yn wir - a chafodd eisteddfodwyr rybudd gan uchel swyddog o’r heddlu i gadw llygaid ar eu heiddo.
Oes, mae yna ddwyn wedi bod yn haul llygad goleuni gydag un cyfrifiadur penglin wedi troi’n gyfrifiadur tan gesail rhywun gyda dwylo blewog.
Er gwaethaf hyn roedd pennawd dramatig yn y Daily Post - Crime wave hits Eisteddfod" yn gorddweud pethau yn go arw achos ychydig drybeilig o ddwyn fu yna mewn gwirionedd.
Er doedd hynny ddim cysur i mi wedi i rywun fynd efo fy ymbarel ar ddiwrnod o gawodydd trymion. Plîs gâi hi’n ôl - dydw i ddim wedi talu amdani eto!
Stiwardio
hynaws
Er nad ydw i o gefndir chwarelyddol o gwbl, fedra i ddim gwneud efo Stiwardiaid.
Am ryw reswm fedar stiwardiaid ddim gwneud efo fi ychwaith. Maen nhw fel pe byddent yn cymryd yn fy erbyn, dim ond fy ngweld.
A hynny, cyn imi godi dau fys arnyn nhw.
Dros y blynyddoedd yr ydw i wedi sylweddoli fod stiwardiaid steddfod genedlaethol yn frîd arbennig sy’n waeth na gweddill y rhywogaeth hon o bobl.
Dydi hynny ddim yn wir yn Llanelli yr wythnos hon. Camp fwyaf yr Eisteddfod hon i mi yw nid y maes penigamp, yr hwyliogrwydd lleol a’r cynhesrwydd mawr rhwng pobl ond gymaint o Stiwardiaid Clên sydd o gwmpas.
Ac y mae hon yn rhywogaeth mor brin y mae gofyn defnyddio llythrennau mawr yn y geiriau Stiwardiaid a Clên.
Hyd yn oed yn y maes parcio y maen nhw yn eithriadol o hynaws a chymwynasgar. Ac o ystyried y bobl sy’n defnyddio meysydd parcio steddfodol mae hynny yn wir yn gamp.
Y Sadwrn cyntaf a minnau wedi anghofio lle parciais fy nghar gallodd un ohonyn nhw fy nghyfeirio tuag ato, dim ond wedi cael gwybod faint o’r gloch y cyrhaeddais y bore hwnnw.
Gwell gwasanaeth na hynny ni all dyn ei ddisgwyl.
Byr ac
yn gryno
Yn amlwg yr oedd yna lawer i’w ganmol yng ngherddi’r Goron ddydd Llun.
Cymerodd yn agos iawn i hanner awr i’r beirniad wneud hynny gyda’r canlyniad i lawer fod yn cwyno i’r seremoni fynd yn rhy hir.
Ond fydd hynny ddim yn digwydd weddill yr wythnos. Dywedodd Cyfarwyddwr yr Eisteddfod i feirniaid y prif seremoniau a ddilynai gael rhybudd nad oeddan nhw i draethu yr un mor faith.
Ar adain
wenolaidd
"Mae hi fel brân," meddai’r dyn oedd yn ymddangos ei fod o’n hwyr i gyrraedd rhywle am y Bws Gwennol oedd yn ei gludo o’r maes parcio i faes yr eisteddfod.
Trueni, achos yr oeddwn i newydd fod yn meddwl mor hwylus oedd pethau’n gweithio.
Gwir, byddai’n well gan bawb gamu allan o’i gar a’i hel hi’n syth am y maes yn hytrach na gorfod disgwyl i fws lenwi cyn eich cludo dair milltir at y brif fynedfa.
Dydi’r drefn ddim yn un gwbl ddi-gwyn fodd bynnag os ydych yn digwydd bod yn gadael y Maes yr un adeg a phawb arall - yn y glaw.
Mae gan y ffordd o giwio fwy i’w wneud â siawns nag â threfn gyda rhai sydd newydd gyrraedd yn aml iawn yn camu ar fws yn llawer cynt na rhai sydd wedi bod yn sefyll a disgwyl ers oriau.
Ond yn ôl awdurdodau’r Steddfod mae rhai wedi galw am fysus tebyg ym mhob steddfod - felly, mae posibilrwydd y bydd y gwenoliaid yn dychwelyd bob haf!
Safle swyddogol yr Eisteddfod
http://www.eisteddfod.org.uk/
Y canlyniadau Diweddaraf o'r Maes
http://www.eisteddfod.org.uk/