
 |  | Tro i'r Sosban
Protest - ac apel am brynwyr llyfrau Cymraeg . |
Dyddiadur Dydd Mawrth Glyn Evans
Y Brotest gyntaf Pe byddai Brad Roynon yn gwybod beth fyddai yn ei ddisgwyl yn Sir Gaerfyrddin diau y byddai wedi newid ei enw i - wel i unrhyw beth ond Brad. Mae hynny’n cymryd yn ganiataol, wrth gwrs, y byddai’n deall beth yw ystyr y gair brad yn y Gymraeg. Os nad oedd o pan gyrhaeddodd o Shir Gâr, y mae o’n awr. A’i enw ef a ddefnyddiwyd unwaith eto yn y slogan gyntaf i’w pheintio ar wal yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli. Galwad ar Mr Roynon i ymddiswyddo fel Prif Weithredwr oedd wrth wraidd y brotest gyntaf ac er nad oedd yn niferus yr oedd yn ddigon swnllyd, cwerylgar a thanbaid ond gyda mwy o wres nag o oleuni yn deillio o hynny. Cyhuddwyd y Cyngor, gan Ffred Ffransis, o weithredu polisi Welsh Not yng nghyfarfodydd Cabinet y cyngor gyda’r honiad fod siaradwyr Cymraeg yn cael eu taflu allan. Y tu fewn i babell y Cyngor aeth yn ddadl hyd at lafoerio bron rhwng Mr Ffransis (y glafoeriwr) a’r Cynghorydd Huw John sy’n aelod o’r Cabinet. Osgôdd ef ddweud pwy a gynghorodd y Cabinet i beidio a defnyddio’r Gymraeg ond rhoddodd y bai ar y ffaith nad oes gan unrhyw un blaid, fwyafrif o fewn y cabinet. Cyfeiriodd hefyd at yr hyn a alwodd yn finiogrwydd a threiddgarwch meddwl Mr Roynon. Yn amlwg, dylai’r Sgir Garwyr ei theimlo’n anrhydedd ei gael yn rhedeg eu Shîr. Byddai wedi bod yn anodd dod o hyd i rywun i gytuno ag ef.
Yn y cyfamser, er gofyn chwe gwaith, methodd Mr Ffransis a chael neb o fewn pabell y Cyngor i dderbyn deiseb wedi ei harwyddo gan dair mil o bobl yn galw ar Mr Roynon i ymddiswyddo.
Gofynnodd i hyd yn oed blismon cyfagos a allai ef berswadio rhywun i wneud hynny ond dim ond rhyw osgo dweud "Na" gyda hanner gwên oedd ar hwnnw i gyfeiliant swn tabyrddau bongo oddi allan. "Does gennym ni ddim dewis, felly, ond ei phastio hi ar y walie ma," meddai Mr Ffransis gan wahodd wedyn bawb i gyffwrdd y dalennau papur ar y parwydydd er mwyn dangos cyd-gyfrifoldeb am yr hyn a alwodd y "niwed troseddol" hwn. Ond ychydig a ymatebodd a throdd y protestwyr am allan i adrodd yn ôl i’r dyrfa o rhyw gant a hanner oedd wedi ymgasglu erbyn hyn.
Ar wal y baebell yr oedd y geiriau cochion diamwys eu hamwysedd: "Dim Brad."
Ymateb y Cyngor ei hun oedd cyhoeddi datganiad agored i Gymdeithas yr iaith yn gofidio eu bod yn cynnal ymgyrch mor bersonol yn erbyn y Prif weithredwr ac yn tynnu sylw at weithgarwch iaith y Cyngor.
Ond disgrifiodd Mr Ffransis yr holl bethau hyn fel masg i dwyllo’r cyhoedd gan ychwanegu fod Shir Gâr "wedi ei gneud yn stoc chwerthin" drwy Gymru gyfan.
Cael ail am nad oedd cyntaf! Daeth gwriondeb peidio â rhoi’r hawl i feirniad rannu gwobr Steddfodol rhwng dau ymgeisydd anfuddugol i’r amlwg yn ystod beirniadaeth cystadleuaeth y gerdd fideo, eleni.
Dywedodd beirniad y gystadleuaeth, Gwyn Thomas, nad oedd yr un o’r ymgeiswyr yn haeddu’r wobr gyntaf ond ei fod ef yn awyddus i rannu y £300 o wobr rhwng dau ymgeisydd oherwydd yr addewid oedd yn eu gwaith.
"Ond dydi rheolau yr Eisteddfod ddim yn caniatau imi wneud hynny," meddai o lwyfan y Babell Lên.
"Ac rydw i’n meddwl fod hynny’n ofnadwy o annheg," ychwanegodd. "Pa ffordd arall sydd yna i feirniad wobrwyo addewid?"
Tebyg mai’r rhesymeg yw na fedrwch chi gael ail heb gael cyntaf ond mae yn drueni i rhyw semantics rheoliadol felly amddifadu un cystadleuydd o £200 ac un arall o ganpunt.
Gwarth y rhai sydd ddim yn prynu "Prynwch lyfrau Cymraeg."
Dyna genhadaeth fawr Hywel Teifi Edwards ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli yr wythnos hon.
Mae’n efengyl sy’n cael ei phregethu yn ei ddull egniol a ffraeth ei hun oddi ar lwyfan ac mewn pebyll.
Yr hyn sy’n gwneud Hywel Teifi yn arbennig yw ei fod o’n ddifyr hyd yn oed pan yn ceryddu ac yn pregethu.
Ac y mae sylweddd i’r hyn sydd ganddo i’w ddweud.
Yn enwedig pan yw’n rhybuddio y bydd cenedl yn peidio â bod pan yw ei phobl yn rhoi’r gorau i greu a darllen llenyddiaeth.
"Mae’n ofid mawr i mi, nid yn unig fod sgrifenwyr yn brin y dyddiau hyn ond bod yna hefyd gyn lleied o brynwyr i’w cynnyrch nhw," meddai.
"Mae pryniant llyfrau Cymraeg bron a bod yn warth cenedlaethol. Allai ddim pwysleisio’n ormodol bwysigrwydd prynu llyfrau Cymraeg," meddai gan ychwanegu ei bod yn "anhraethol bwysig" i genedl fod ei sgrifenwyr yn cael dweud eu straeon mewn rhyddiaith a barddoniaeth a’r straeon hynny yn cyffwrdd y bobl.
"Does yna ddim byd yn bwysicach i’n parhad fel cenedl na chefnogi y rhai sydd yn sgrifennu." meddai.
Safle swyddogol yr Eisteddfod http://www.eisteddfod.org.uk/ Y canlyniadau Diweddaraf o'r Maes http://www.eisteddfod.org.uk/ [an error occurred while processing this directive]
|  | 
| [an error occurred while processing this directive] |
|