
 |  | Tro i'r Sosban
Cofio Elfed - gweithiwr dygn oedd am dynnu pawb i'r Steddfod . |
Pe byddai wedi cael byw, un a fyddai’n arbennig o brysur a hwyliog yr wythnos hon yn Llanelli fyddai Elfed Lewys.
Y mae’r bwlch a adawodd i’w deimlo ar y maes wrth inni ddisgwyl ei weld yn dod rownd rhyw gornel a’i wên yn lledu wrth iddo weld rhywun parod am sgwrs yr oedd yn ei adnabod.
Yr oedd gan Elfed ran allweddol yn y trefniadau cynnar ar gyfer Prifwyl Llanelli. Ei bwyllgor ef, yn ôl Garry Nicholas, cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, oedd yr un cyntaf i orffen ei waith.
"Roedden nhw wedi cwpla cyn ei farw . Roedd cymaint o frwdfrydedd ac roedden nhw wedi trefnu’r testunau," meddai am y pwyllgor Alawon Gwerin.
Yn gymeriad mor fawr ac yn gymaint rhan o’r Eisteddfod Genedlaethol nid yw’n syndod o gwbl fod cyfarfod arbennig wedi ei drefnu yr wythnos hon i gofio Elfed.
Bydd yn y Neuadd Ddawns am un o’r gloch bnawn Mercher - a hynny’n union cyn cystadleuaeth y byddai Elfed ei hun wedi gwirioni arni.
Cystadleuaeth alaw werin i rai na fu’n cystadlu o’r blaen fel unigolion yn y Genedlaethol.
Hefyd yn cael ei brynu’n gyflym ar faes yr Eisteddfod y mae cyfrol o atgofion am Elfed gan hen gyfaill iddo, Ioan Roberts.
Cafodd Ioan deitl i’w gyfrol o ddisgrifiad Ray Gravell o Elfed: "Cawr ar goesau byr."
Mae’r gyfrol yn gyforiog o straeon difyr am un o Gymry mwyaf lliwgar y cyfnod diweddar.
"Y steddfod oedd popeth iddo fe yn y blynyddoedd dwetha. Roedd e wedi rhoi cymaint mewn i’r pwyllgorau ’ma. Ac roedd gydag e’r ddawn i dynnu pobol i weithio," meddai Ray Gravell yn y gyfrol.
Dangosir mai rhan o gamp fawr Elfed, drwy gyfuniad o frwdfrydedd heintus a hoffusrwydd, oedd dod â’r Eisteddfod i sylw pobl na fydden nhw fel rheol yn ymddiddori mewn pethau fel hyn.
Yr oedd yn gymeriad mor wahanol y mae yna stôr diddiwedd o straeon smala a difrif amdano - llawer o’r rheini, fel y dywed Ioan, yn gorffen gyda’r geiriau, "Pwy ond Elfed."
Yn weinidog wrth ei alwedigaeth yr oedd y mwyaf annhebygol o weinidogion gyda’i sêl dros ei grefydd yn ymestyn i’w Gymreigrwydd eang a’i wleidyddiaeth weithredol.
Fe’i carcharwyd yn sgil ymgyrchoedd iaith y chwech a’r saithdegau.
Ond hyd yn oed yng ngharchar nid oedd ei gadw i lawr. Mae Arfon Gwilym yn sôn amdano yn tynnu sgwrs a charcharorion a swyddogion fel ei gilydd a’i amynedd yn ddi-ball wrth egluro pam yr oedd yno.
Mewn oedfa Sul yr oedd ei ddewis o destun yn gyfuniad o’i synnwyr digrifwch a’i argyhoeddiad. Dewisodd o ddeuddegfed bennod y llythyr at y Rhufeiniaid y geiriau: "Na chdymymffurfiwch a’r byd hwn, eithr ymnewidiwch trwy adnewyddiad eich meddwl."
Mae holl gylch eang bywyd Elfed yn cael ei adlewyrchu yn llyfr Ioan a bydd yr union ddeunydd darllen yn dilyn y cyfarfod bnawn Mercher - ac ar gyfer y rhai a gyll y cyfarfod hwnnw.
Elfed: Cawr ar Goesau Byr. Golygydd, Ioan Roberts. Lolfa. £5.95. Yn cynnwys lluniau). Safle swyddogol yr Eisteddfod http://www.eisteddfod.org.uk/ Y canlyniadau Diweddaraf o'r Maes http://www.eisteddfod.org.uk/ [an error occurred while processing this directive]
|  | 
| [an error occurred while processing this directive] |
|