
 |  | Tro i'r Sosban
Anrhydedd o wlad bell i broffwyd yn ei wlad ei hun . |
Dyddiadur dydd Gwener Glyn Evans
Os nad oes yna adnod yn y Beibl yn dweud "Na fydded i newyddiadurwr ymuno a na phanel na thrafodaeth; eithr eistedded ym mhob eisteddfa yn gwrando ac yn gwatwar siaradwyr eraill," mi ddylai yna fod.
Sadwrn cyntaf yr oeddwn i ar banel yn yr Iglw - a’r un peth a gadarnhaodd y digwyddiad hwnnw oedd ei bod bob amser yn brafiach edrych ar banel nac edrych o banel.
Yn yr Iglw ar gyrion y Babell Lên yr oeddem gyda dyrnaid wedi dod ynghyd i waradwyddo at y sylw y mae llyfrau a llenyddiaeth yn ei gael ar y cyfryngau.
Rhywbeth newydd i Lanelli yw yr Iglw ac yn gartref gwych i’r union drafodaethau nad ydynt i’w clywed, yn honedig, ar y cyfryngau Cymraeg eraill.
Lle i ddyrnaid clos sydd wedi bod yno ond mae’r syniad hwn y mae Hywel Teifi yn cael y bai, chwedl yntau, am ei gyflwyno yn un sy’n haeddu cael ei ymestyn i Eisteddfodau eraill.
Achos er nad oedd y trafod yn danbaid - ac allech chi ddim disgwyl rhyw wres mawr iawn mewn iglw - yr oedd bob amser yn ddifyr.
Clywch clywch
Yr oedd yna edrych ymlaen mawr at brotest dybiedig aelodau o’r Orsedd yn ystod seremoni’r cadeirio ddydd Gwener.
Mwy, mewn gwirionedd, nag oedd yna at y cadeirio ei hun ymhlith rhai ohonan ni sy’n mwynhau tipyn o firi a helynt.
Cwyno mae aelodau’r Orsedd nad ydyn nhw yn clywed yr un pill o be sy’n digwydd yn y pafiliwn yn ystod seremoniau pwysig pan fydd yr Orsedd yn eistedd yng nghefn y llwyfan.
Methu deall yr ydw i lle maen nhw wedi bod mor hir cyn cwyno. Ers faint maen nhw’n eistedd yng nghefn y llwyfan heb fod yn clywed? - blynyddoedd. Pam protesti rwythnos hon felly? Newydd ddeffro?
Mater o asesu Yr oedd cwestiwn Hywel Teifi Edwards yn ystod seremoni wobrwyo yn y Babell Lên yn un digon. "Sut goblyn yr oedd athrawon yn medru dysgu cyn bod yna aseswyr."
Wnaeth o ddim ymhelaethu ar y pwnc ond allwn i ddim peidio â meddwl, tybed ai felly fydd hi yn y genedlaethol cyn bo her gydag aseswyr yn cymryd lle y beirniaid arferol.
Safle swyddogol yr Eisteddfod http://www.eisteddfod.org.uk/ Y canlyniadau Diweddaraf o'r Maes http://www.eisteddfod.org.uk/ [an error occurred while processing this directive]
|  | 
| [an error occurred while processing this directive] |
|