BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
News image
Nôl i'r dudalen gartref
News image
News imageswyddisgiliauhyfforddiantaddysg uwchaddysg bellachNews image
News image

BBC Homepage
Addysg
»Jyst y Job
Swyddi
Sgiliau
Hyfforddiant
Addysg Uwch
Addysg Bellach
Siarad o brofiad
English

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Swyddi


Cyfweliadau

Ydy cyfweliadau’n achosi straen i ti? Wyt ti’n teimlo’n nerfus ymlaen llaw? Yn teimlo nad wyt ti wastad yn gwneud dy orau? Ddim ti yw’r unig un!

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn casáu cyfweliadau. Ond, gelli roi gwell cyfle i ti dy hun gyda’r allwedd i lwyddiant... paratoi!

Deg awgrym ar gyfer gwella dy sgiliau cyfweliad

Cofia baratoi

Dylet ddysgu cymaint â phosib am y cwmni a’r swydd ymlaen llaw. Efallai bod gan dy llyfrgell leol ddeunydd ar y cwmni ei hun. Gofyna i dy ffrindiau a’th deulu. Ydyn nhw’n cyhoeddi adroddiad blynyddol? Efallai bod gan y Ganolfan Waith a’r Ganolfan Gyrfaoedd wybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol i ti.

Ceisia ganfod pa fath o gyfweliad rwyt ti’n debygol o’i gael. Sgwrs gyfeillgar un-i-un? Panel cyfweld ffurfiol? Profion ysgrifenedig?

Meddylia sut mae ateb y cwestiynau amlwg (‘pam ydych chi eisiau’r swydd hon?’) y noson gynt.

Meddylia am rai cwestiynau yr hoffet ti eu gofyn.l Dewisa rai sy’n swnio fel pe bai gen ti ddiddordeb gwirioneddol yn y swydd fel ‘fedrwch chi ddweud mwy wrtha i am hyfforddiant?’ ‘fedra i gael blas ar weithio mewn adrannau eraill?’

Bydda’n drefnus

Cofia wisgo’n daclus ac yn dwt.

Gwna’n siwr dy fod ti’n mynd i’r lle iawn, ar y dyddiad iawn ac erbyn yr amser cywir.

Gwna’n siwr dy fod ti’n gwybod sut mae mynd yno a chofia adael cartref mewn da bryd. Dyw ‘ymarfer ffug’ byth yn wastraff amser.

Pethau na ddylid eu gwneud mewn cyfweliad

PAID Â ......

1. Chyrraedd yn hwyr/mynd i’r lle anghywir/ar y diwrnod anghywir/ar yr amser anghywir!

2. Mynd i mewn i’r stafell gyfweld heb gnocio, nac eistedd heb i rywun ofyn i ti wneud hynny.

3. Cnoi, smygu na bod â dim byd yn dy geg.

4. Cracio jôcs. (Gall hynny swnio fel pe na bait ti’n cymryd pethau o ddifrif neu fod dim ots gen ti).

5. Edrych yn flêr neu fel pe na bait ti wedi gwneud ymdrech o ran y ffordd rwyt ti’n edrych.

6. Rhoi atebion un gair (‘ydw’ a ‘nac ydw’) i gwestiynau.

7. Bod yn amwys am dy ganlyniadau arholiad neu’r swyddi rwyt ti wedi eu gwneud yn y gorffennol (byddan nhw’n meddwl fod gen ti rywbeth i’w guddio).

8. Dweud unrhyw beth nad yw’n wir.

9. Gofyn cwestiynau (‘faint mae amser te yn ’i bara?’) sy’n swnio fel pe na bai gen ti ddiddordeb mewn dim ond yr hyn gei di allan o’r trefniant.

10. Siarad gormod .... na rhy ychydig!

Rho gynnig ar ein cyfweliad rhyngweithiol

EnglishNews image

Lincs

Hefyd...
Cyfweliad rhyngweithiol
Llwyddo mewn cyfweliad

Cam nesa...
Sgiliau ar gyfer gwaith
Hyfforddiant mewn gwaith

News image
randomly included tips
News image
randomly included tips
News image
anfona egerdyn!

News imageNews imageNews imageNews imageNews imageNews imageNews image
News image
top
News image
swyddi
News image
sgiliau
News image
hyfforddiant
News image
add. uwch
News image
add. bellach
News image
sgwrs
News image


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy