bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
News image
Nôl i'r dudalen gartref
News image
News imageswyddisgiliauhyfforddiantaddysg uwchaddysg bellachNews image
News image

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Addysg
»Jyst y Job
Swyddi
Sgiliau
Hyfforddiant
Addysg Uwch
Addysg Bellach
Siarad o brofiad
English

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Hyfforddiant yn y gwaith
 


NVQs
(Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol)

Wyt ti am brofi i gyflogwr y gelli di wneud swydd?
Angen cymwysterau ar gyfer swydd benodol?

Mynna wybod mwy am NVQs!

Ffeil Ffeithiau NVQ

  • NVQs yw’r cymwysterau galwedigaethol mwyaf adnabyddus.
  • Fel arfer, pobl mewn swyddi neu rai sydd ar raglenni seiliedig-ar-waith sy’n gwneud NVQs, ond weithiau mae’n bosib eu gwneud yn yr ysgol neu’r coleg.
  • Maent yn dangos fod gen ti’r sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sy’n ofynnol ar gyfer galwedigaeth benodol.
  • Cyrff dyfarnu cenedlaethol fel Edexcel (BTEC), City and Guilds ac RSA sy’n dyfarnu NVQs, felly mae cyflogwyr ar hyd a lled y DG yn eu cydnabod.
  • Mae yna gannoedd o NVQs yn gysylltiedig â swyddi gwahanol.

Lefelau NVQ

  • Gellir cymryd NVQ ar bum lefel wahanol
  • Lefel 1 yw’r hawsaf.
  • Fel arfer, mae pobl ifanc sydd ar brentisiaeth neu raglen hyfforddi yn cymryd NVQs ar lefelau 2 neu 3.
  • Ar gyfer pobl mewn swyddi technegol neu broffesiynol/rheoli uwch mae NVQs ar lefelau 4 a 5.
TIP TANBAID!

I gael gwybod pa NVQ neu gymhwyster arall penodol-i-swydd sydd ei angen ar gyfer y swydd yr wyt ti am ei chael, dos i’r A-Z o Swyddi.

Pa ddiben sydd mewn cael NVQs?

Mae cymwysterau fel TGAU, lefel A/AS, GNVQs a Sgiliau Allweddol yn dweud wrth gyflogwyr dy fod ti wedi cyrraedd lefel benodol yn dy addysg gyffredinol. Ond mae cyflogwyr hefyd am wybod oes gen ti’r wybodaeth a’r sgiliau sy’n ofynnol i wneud swydd neu alwedigaeth benodol. Wyt ti wedi ymgymhwyso i fod yn dechnegydd peirianyddol, yn ben-cogydd, yn blymer neu i drin gwallt? Dyna pryd mae angen cymhwyster penodol-i-swydd fel NVQs arnat.

Er bod NVQs yn graddol ennill eu plwyf fel y prif gymwysterau galwedigaethol sydd ar gael i bobl mewn gwaith, mae rhai cyrff proffesiynol, fel Cymdeithas y Gyfraith, yn dal i ddyfarnu eu cymwysterau eu hunain.

 
EnglishNews image

Lincs

Hefyd...
Ceiswyr Sgiliau
Amser o'r gwaith i astudio

Cam nesa...
Sgiliau ar gyfer gwaith
Swyddi

News image
randomly included tips
News image
randomly included tips
News image
anfona egerdyn!

News imageNews imageNews imageNews imageNews imageNews imageNews image
News image
top
News image
swyddi
News image
sgiliau
News image
hyfforddiant
News image
add. uwch
News image
add. bellach
News image
sgwrs
News image