 |  | |  | Cymarfer
Pecyn wedi ei anelu at Gymry Cymraeg a dysgwyr da sy'n ysgrifennu Cymraeg o ddydd i ddydd yw Cymarfer |
Mae'r sgriniau'n cyflwyno gwybodaeth mewn ffordd syml, eglur a diddorol. Yna, cewch gyfle i roi cynnig ar ymarferion gloywi iaith rhyngweithiol. Bydd hyn yn gwella'ch gallu i ysgrifennu Cymraeg. Mae amrywiaeth o ymarferion ar eich cyfer. Beth am geisio cywiro gwallau, llenwi bylchau, llusgo a gosod neu ateb cwestiynau amlddewis? Mae'r rhaglenni yn marcio ac yn cynnig sgôr i'r defnyddiwr a phan wnewch chi gamgymeriad, mae'n cynnig esboniad. Technegol Pecyn ar gyfer cyfrifiaduron PC Windows sydd yn defnyddio IE fersiwn 5.0 ac uwch, Netscape Navigator, Mozilla neu Firefox yn unig yw hwn. Mae angen gosod plug-in Neuron 2004 i alluogi defnydd o'r pecyn yma. Mae'r gwersi yn cymryd amser i'w llwytho wrth ddefnyddio modem cyffredin, a byddai cysylltiad band llydan yn fantais fawr. Mae'r pecyn yn bodoli ar wefan Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor.
Cliciwch yma i gychwyn Cymarfer.
 (Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.) |
|
|