 Dyfodiad y Tuduriaid a'r Ddeddf Uno
 Richard III
Rhyfel y Rhos Rhwng y 1450au a’r 1480au problem fawr coron Lloegr yw’r ymrafael rhwng llinachau Lancaster a York. Disgynyddion trydydd mab Edward III yw’r Lancastriaid. Y mae’r Iorciaid yn ddisgynyddion, trwy’r Mortimeriaid, ail fab Edward a hefyd ei bedwerydd. Yn 1460 mae Harri VI, wyr Harri IV, yn cael ei ddiorseddu gan Edward IV o linach York. Yn 1485 mae brawd Edward, y trawsfeddiannwr Richard III, yn cael ei ddiorseddu gan y Lancastriad Harri VII. Y mae Harri’n priodi merch Edward IV, ac mae eu mab, Harri VIII, yn cynrychioli’r ddwy linach. Y mae’r ymrafael yn cael effaith fawr ar Gymru. Ar y dechrau, beth bynnag, cadarnle’r Lancastriaid yw Cymru, tra mae’r Mers, yn enwedig arglwyddiaethau’r Mortimeriaid, yn ganolog i uchelgais y Iorciaid. Yn y diwedd, Harri Tudur sy’n cario’r dydd, un o ddisgynyddion Edward III - yn Gymro ar ochr ei fam, ac yn Ffrancwr ar ochr ei dad. Y Tuduriaid felly, a’u cysylltiadau â hen dywysogion Cymru, yw ffocws newydd teyrngarwch yr uchelwyr Cymreig.
Y Tuduriaid Teulu’r Tuduriaid sy’n llywodraethu Lloegr (a Chymru - ac Iwerddon) o 1485 i 1603. Y mae Harri VII yn dangos rhywfaint o barch tuag at Gymru, ac mae gan ei wyres, Elisabeth I rhywfaint o gydymdeimlad tuag at y wlad hefyd. Efallai mai presenoldeb y Tuduriaid ar orsedd Lloegr yw’r rheswm pam fod y berthynas â’r Saeson yn fwy cymodlon yng Nghymru nag oedd yn Iwerddon. Y brenin sy’n rheoli bron y cyfan o Gymru. Y mae’n cadw Cyngor y Mers, a sefydlwyd yn Llwydlo gan Edward IV; y mae’n dileu bileiniaeth yn y rhan fwyaf o’r gogledd, ond nid yw’n gwneud fawr ddim arall. Y mae ef a’i fab yn dial ar rai o wyr amlwg Cymru, gan gynnwys y teulu Stanley yn y gogledd-ddwyrain, Tý Dinefwr yn y de-orllewin a dug Buckingham yn y de-ddwyrain.
Deddf 1536
Y mae’r 1530au yn ddegawd tyngedfennol yn hanes tiriogaethau coron Lloegr. Y mae Harri VIII a’i gynghorwr Thomas Cromwell, yn cefnu ar y Babaeth, gan ei gwneud yn bosib y gallai cymdogion Catholig pwerus fygwth y deyrnas. Trwy ddileu grym y Pab y mae Harri’n dangos pa mor benderfynol ydoedd o gryfhau grym y goron ar hyd a lled ei deyrnas. Mae ei bolisïau tuag at Gymru, yn enwedig dileu pwerau arglwyddi’r Mers, yn rhan o’r un bwriad. Pasiwyd y Ddeddf Uno gyntaf - teitl a ddefnyddiwyd gyntaf yn yr 20fed ganrif - yn 1536. Rhannwyd y Mers yn saith sir: Dinbych, Fflint, Trefaldwyn, Maesyfed, Brycheiniog, Mynwy, Morgannwg a Phenfro. Daw hyn â’r rhaniad rhwng y Dywysogaeth a’r Mers i ben. Cyfraith Lloegr yw unig gyfraith Cymru, ac i’w gweinyddu penodir ynadon heddwch ym mhob sir. Bydd gan Gymru 26 o aelodau i’w chynrychioli yn y Senedd.
 |  | 
|