 Tywysogaeth Cymru
 Brenin John yn llofnodi'r Magna Carta
Cymru ar ddechrau’r 13eg ganrif Yn 1200 Cymru, a defnyddio hen enwau’r siroedd, roedd y Mers yn cynnwys rhannau o Fflint a Threfaldwyn, y rhan fwyaf o Faesyfed, Brycheiniog a Morgannwg, bron y cyfan o Sir Fynwy, de Caerfyrddin, a bron y cyfan o Sir Benfro. Y prif deuluoedd yn y cyfnod yma yw Breos, Mortimer, Fiztalan a Marshall. Yn Pura Walia mae gwyr amlwg y 12fed ganrif - Madog o Bowys, Owain o Wynedd a Rhys o’r Deheubarth - wedi ymadael. Rhannwyd Powys rhwng dwy gangen o’r teulu oedd yn ben. Enwyd y rhan ogleddol (dwyrain Meirionydd a de Dinbych a Sir Fflint) yn Powys Fadog, a’r rhan ddeheuol (sir Drefaldwyn) yn Powys Wenwynwyn. Y mae Deheubarth ar fin ymrannu hefyd oherwydd rhai digon cecrus yw meibion yr Arglwydd Rhys. Yng Ngwynedd mae Llywelyn, wyr Owain Gwynedd ar fin adfer grym ei daid.
Llywelyn Fawr Yn 1205 mae Llywelyn yn priodi Joan (Siwan), plentyn siawns, John, Brenin Lloegr. Erbyn hyn fe sydd ben yng Ngwynedd. Y mae’n ennill tir yn y de, gan gipio Powys Wenwynwyn a gogledd Ceredigion. Mae John yn anfon milwyr i Wynedd ac mae Joan yn llwyddo i sicrhau heddwch rhwng ei thad a’i gwr. Y mae trafferthion John, sy’n arwain yn 1215 at selio’r Magna Carta, yn rhoi cyfle i Llywelyn gipio’r cestyll brenhinol, yn eu plith Caerfyrddin ac Aberteifi. Yn 1216 y mae’n trefnu cyfarfod o’r arweinwyr Cymreig yn Aberdyfi, lle mae’n cael ei gydnabod yn ben arnynt. Yn 1218, drwy Gytundeb Caerwrangon, y mae brenin Lloegr yn cydnabod ei safle. Wedi hynny, nid yw ei safle’n cael ei herio fawr ddim. Bu farw yn 1240 ac fe fyddai’n cael ei gydnabod fel Llywelyn Fawr.
Problem ei olynydd Un mab sydd gan Llywelyn a Joan, Dafydd. Y mae gan Llywelyn fab arall, Gruffudd, ond mae’n benderfynol mai ei blentyn cyfreithlon fydd yn etifeddu’r dywysogaeth i gyd. Cyn ei farw y mae’r Pab, brenin Lloegr a’r tywysogion llai yng Nghymru yn cydnabod Dafydd fel etifedd Llywelyn. Pan gaiff ei gyfle mae Dafydd yn cael bod ei ewythr, Henry III, brenin Lloegr, yn barod i’w gydnabod fel Tywysog Gwynedd. Ond nid yw’n fodlon iddo gael yr un hawliau a’i dad. Yn 1246, cyn i’r materion hyn gael eu datrys, bu farw Dafydd, yn ddi-blant. Ei feibion sy’n etifeddu grym yng Ngwynedd. Yr amlycaf ohonynt yw Llywelyn. Y mae Henry’n ceisio cyfyngu ar eu hawdurdod; ei fwriad yw trawsnewid yr hen deyrnasoedd o fod yn bobl ar wahân i fod yn ddim amgen i arglwyddi cyffredin teyrnas Lloegr.
Llywelyn ap Gruffudd
Erbyn 1256 mae Llywelyn wedi disodli ei frodyr. Y mae’n dechrau ar ymgyrchoedd tebyg i rai ei daid. Mae’n ennill cefnogaeth arglwyddi Powys Fadog, yn cipio Powys Wenwynwyn, gan sicrhau bod awdurdod y Deheubarth yn nwylo’r rhai sy’n deyrngar iddo. Nid dim ond arweinydd Pura Walia, ond ei arglwydd hefyd. Erbyn 1258 mae’n galw’i hunan yn dywysog Gwynedd a hefyd yn dywysog Cymru. Ond er sicrhau ei hygrededd rhaid iddo hefyd gael ei gydnabod yn arglwydd Marchia Wallie. Yn 1263 mae’n arwain ei luoedd i ganol y Gororau ac yn cael ei groesawu gan Gymry Aberhonddu, y Fenni ac ucheldir Morgannwg. Y mae gwrthryfel y Barwniaid yn Lloegr yn gymorth iddo. Arweinydd y gwrthryfel yw Simon de Montfort, ac mae e’n ffurfio cynghrair â Llywelyn yn 1264. Dair blynedd yn ddiweddarach, yng Nghytundeb Trefaldwyn, mae Henry III yn cydnabod Llywelyn yn dywysog Cymru, ac mae Llywelyn yn ymateb drwy gydnabod brenin Lloegr yn benarglwydd. Bydd y tywysog yn arglwydd dros y mân arweinwyr Cymreig. Bydd yn cael rheoli ardal yn ymestyn o ffiniau Powys i Aberhonddu, a thros Gymry ucheldir Morgannwg a Gwent.
 |  | 
|