|  |
 Y Diwygiad Protestannaidd
 Morwyn Penrhys
Crefydd yr oesoedd canol diweddar yng Nghymru Yn yr hanner can mlynedd cyn y Diwygiad Protestannaidd yr oedd ymlyniad y bobl at grefydd draddodiadol yn daer iawn. Yr oedd llawer o addoli ar y Forwyn Fair. Codwyd eglwysi trefol nodedig yng Nghaerdydd, Dinbych y Pysgod, Wrecsam a mannau eraill. Codwyd eglwysi dwy ale yn Nyffryn Clwyd, ac mae cryn barch at ddelwau megis Morwyn Penrhys (Rhondda). Eto, er mor boblogaidd yw arferion crefyddol y Cymry, nid oes iddynt fawr o sylwedd deallusol. A chan mai prin o ran gallu yw’r Cymry all warchod yr hen, a dim ond ambell un yn awyddus i anwesu’r newydd, eu hymateb cyffredinol i newidiadau crefyddol yw derbyn yn swrth yr hyn mae’r llywodraeth yn ei gyflwyno.
Torri’r cysylltiad â Rhufain Erbyn diwedd y 1520au mae Harri VIII yn awyddus i ysgaru’i wraig Catherine o Aragon er mwyn priodi Anne Boleyn. Dim ond y Pab all ganiatáu hynny, ac nid yw’n awyddus i gythruddo nai Catherine, yr Ymerawdwr Siarl V. Yn 1529 mae’r brenin yn cynnull senedd lle mae rhwydd hynt i unrhyw un fynegi teimladau gwrth-babaeth. Dechreuwyd proses sydd â’i momentwm ei hunan. Erbyn 1535 mae Harri, gyda chymorth ei brif weinidog, Thomas Cromwell, wedi sicrhau nifer o fesurau sy’n dileu awdurdod y Pab yn nhiriogaethau coron Lloegr ac yn dyrchafu’r brenin yn ben ar Eglwys Loegr.
Rhagor o newidiadau crefyddol Roedd y Diwygiad Protestannaidd wedi dechrau yn yr Almaen yn 1517, ond nid torri’r cysylltiad â Rhufain er mwyn derbyn y grefydd Brotestannaidd oedd bwriad Harri. Ei nod yw sicrhau i’w hunan y pwerau oedd gan y Pab.
Y mae Protestaniaid yn cael eu herlyn. Llosgwyd Thomas Capper yng Nghaerdydd yn 1542. Eto mae Harri’n hyrwyddo rhai polisïau lled Brotestannaidd, yn benodol felly, mewn perthynas â mynachaeth. Rhwng 1536 a 1540 ymosodwyd ar y tai crefydd. Yr oedd 47 ohonynt yng Nghymru, yn cynnwys mynachdai, lleiandai, brodordai a chelloedd amrywiol. Yr oedd y bywyd mynachaidd wedi bod yn ddilewyrch ers tro. Erbyn 1536 dim ond wyth deg pump o fynachod oedd mewn tri ar ddeg o fynachlogydd Sistersaidd yng Nghymru - ac yr oedd enw digon amheus gan rai ohonynt. Diddymwyd y mynachdai nid oherwydd eu gwendidau ond am fod y brenin yn chwennych eu cyfoeth.
O ganlyniad i’r diddymiad y mae cannoedd o filoedd o erwau o dir Cymru yn newid dwylo. Yr uchelwyr sydd ar eu hennill. Er enghraifft, fe drosglwyddwyd Abaty Margam a’i diroedd i’r teulu Mansel, a’r teulu Somerset o Rhaglan yn cael tiroedd Tyndyrn. Er bod rhai o dai’r Benedictiaid yn troi’n eglwysi plwyf, y mae llawer o’r mynachlogydd yn troi’n adfeilion - ergyd greulon i’r etifeddiaeth bensaernïol Gymreig.
Erbyn marwolaeth Harri’r VIII yn 1547, y mae newidiadau crefyddol eraill wedi digwydd, yn fwyaf arbennig, dinistrio delweddau megis yr un ym Mhenrhys ac atal y canolfannau pererindota. Yn 1539 mae’r brenin yn caniatáu cyhoeddi’r Beibl yn Saesneg a chyhoeddwyd llyfr gweddi Thomas Cranmer yn 1544. Ddwy flynedd yn ddiweddarach cyhoeddwyd y llyfr Cymraeg cyntaf, gwaith John Prys, Aberhonddu. Ei gynnwys oedd y Credo, Gweddi’r Arglwydd a’r Deg Gorchymyn. Dyma ddechreuad cyhoeddi yn y Gymraeg.
Rhwng 1546 a 1660 cyhoeddwyd 108 o lyfrau Cymraeg, rhif bychan o’i gymharu â’r llyfrau a gyhoeddwyd yn Saesneg neu Ffrangeg, ond nifer sylweddol o’i gymharu â’r ieithoedd Celtaidd eraill. Yn y cyfnod yna dim ond pedwar llyfr Gaeleg gafodd eu cyhoeddi a dim ond un ar ddeg yn yr Wyddeleg.
 |  | 
|  © MM | | |
|
|