Cofio Trychineb Senghenydd 1913
topYng nglofa'r Universal ym mhentref Senghenydd yn 1913 y digwyddodd y drychineb fwyaf yn hanes y diwydiant glo yng Nghymru.
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Ar fore Mawrth, Hydref 14 y flwyddyn honno cafwyd ffrwydriad difrifol yn y pwll glo a lladdwyd 439 o weithwyr, yn ddynion a bechgyn.
Roedd tanchwa arall eisoes wedi lladd 83 o lowyr yno yn 1901 ond er bod y peryglon ym mhwll yr Universal yn hysbys ers hynny, ni chafodd dim ei wneud i wella'r amodau gweithio.
Roedd y pentref yng Nghaerffili wedi tyfu o gwmpas y pwll a gadawodd y danchwa graith enfawr ar y gymuned: gadawyd 205 o wragedd heb wŷr, 62 o rieni heb feibion a thros 500 o blant heb dad.
Cafodd rheolwr y pwll eu gorchmyn i dalu dirwy o £24 a chafodd y perchenog, ar ôl apêl, ddirwy o £10 a chostau o £5 5s.
Un o'r rhai a gollodd berthynas yn y danchwa oedd Dafydd Parry sydd yn y clip uchod - bu'n dweud yr hanes wrth Hywel Gwynfryn ar Radio Cymru adeg nodi 90 mlwyddiant y drychineb.
Parhawyd i weithio'r pwll tan 1928. Codwyd cofeb i'r rhai a gollwyd tan 1981.




