Delwedd o'r gyfres - pobl gynoesol ar daith

The Story of Wales

27 Chwefror 2012

Huw Edwards sy'n dod â stori Cymru yn fyw, o Oes yr Iâ i'r Oes Wybodaeth - stori hudolus, gyffrous ac weithiau'n annisgwyl.

Mae'r gyfres yn dechrau nos Lun 27 Chwefror am 9pm ar BBC One Wales.

Mae The Story of Wales yn llawn arwyr a buddugoliaethau, breuddwydion mawr ac ymdrechion enbyd. A hithau'n wlad y cyfarwydd a'r chwedlonydd, dyma stori'r genedl a'r bobl sydd wedi'i llunio.

Huw Edwards sy'n adrodd stori afaelgar ein cenedl wedi'i ffilmio mewn lleoliadau ar hyd a lled y wlad gan ail-greu digwyddiadau dramatig a defnyddio graffeg cyfrifiadurol trawiadol. Mae'n cychwyn trwy ail-greu'r seremoni gladdu gynharaf yng Ngorllewin Ewrop, "Dynes Goch" Pen y Fai.

Gwelwn Gymry wrth galon llys y Tuduriaid, a'r newid aruthrol a fu yn y wlad wrth i'r glofeydd a'r gweithfeydd copr a haearn ffynnu, sut y gwnaeth Cymru arloesi yn y Chwyldro Diwydiannol gyda datblygiadau addysgol a thechnolegol, hyd at hanes datganoli heddiw.

Er mwyn cael gwybod mwy am y gyfres a gwylio clipiau ewch i bbc.co.uk/storyofwales neu ein tudalen Facebook facebook.com/storyofwales

Defnyddiwch #storyofwales ar Twitter.


Radio Cymru

Rhun ap Iorwerth

Be di'r Hanes?

Rhun ap Iorwerth yn bwrw golwg ffres ar hanes Cymru mewn cyfres newydd.

Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Enwogion

Llywelyn ap Gruffydd

Llywelyn ein Llyw Olaf

Hanes 'tywysog olaf' Cymru a laddwyd ar Rhagfyr 11, 1282.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.