'10 Uchaf' Cestyll Cymru
17 Tachwedd 2009
Seiliwyd ein horiel o ddeg castell mwyaf poblogaidd Cymru ar ffigyrau ymwelwyr ar gyfer 2008 a gasglwyd gan CADW a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
At ddibenion yr oriel hon, rydym yn diffinio castell fel amddiffynfa wedi ei chodi mewn lleoliad strategol. O'r herwydd nid yw Castell Penrhyn ger Bangor na Chastell Cyfarthfa ym Merthyr - ill dau yn denu rhai o'r ffigyrau ymwelwyr uchaf o holl gestyll Cymru - wedi eu cynnwys gan mai tai bonedd i dirfeddianwyr y 19eg ydynt. Mae Castell Coch wedi ei gynnwys gan ei fod wedi ei godi ar adfeilion hen gastell o'r 13eg Ganrif a chastell Normanaidd mwy diweddar. Mae cynllun y castell presennol yn efelychu cynllun castell milwrol o'r canol oesoedd.
Nid oes ffigyrau wedi eu cofnodi ar gyfer Castell Aberystwyth gan ei fod ar safle agored ac felly nid ydym wedi gallu ei gynnwys yn ein hymchwil.
Dyma'r ffigyrau yn llawn:*
1. Castell Caerdydd - 221,903 (Castell Penrhyn - 187,271 2. Castell Caernarfon 174,964 3. Castell Conwy 163,668 4. Castell Powys 98,022 5. Castell y Waun 94, 647 6. Castell Harlech 85, 659 7. Castell Caerffili 83, 167 8. Castell Penfro 81,706 (Castell Cyfarthfa 75,000 (cyfartaledd dros 10 mlynedd)) 9. Castell Coch 68,544 10. Castell Biwmares 67,329 * Arolwg Beaufort Research Cyf i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Sylwer fod y ffigyrau hyn wedi eu darparu gan y sefydliadau sy'n cynnal yr henebion dan sylw ac nad ydynt yn cynnwys henebion na wnaeth ymateb i'r arolwg.
Er fod Castell Powys, un o ganolfannau tywysogion y canolbarth, yn 4ydd yn y rhestr, nid oes unrhyw un o gestyll cynhenid tywysogion Gwynedd yn y 10 uchaf. Y mwyaf poblogaidd o'r rheiny yn ôl nifer ymwelwyr yw Castell Cricieth a godwyd gyntaf gan Lywelyn Fawr yn y 1230au (33,076 o ymwelwyr yn 2008).
Yn ôl i'r orielHanes Cymru

Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.


