Fel cartref y gantores opera enwog Adelina Patti yr adnabyddir Castell Craig y Nos i lawer ond bu'n iechydfa i gleifion oedd yn dioddef o'r afiechyd darfodedigaeth (TB) rhwng 1920 a 1960 hefyd. Does dim cofnod o'r cannoedd o blant cafodd eu trin yn y castell yn y cyfnod hwnnw, ond fe gasglodd Ann Shaw, un o'r cyn gleifion hen luniau ynghyd ar gyfer arddangosfa arbennig.
Roedd yr arddangosfa ar agor tan 29 Medi 2007 yn y Neuadd Les, Heol Aberhonddu, Ystradgynlais. Ann Shaw oedd trefnydd yr arddangosfa a bu hi'n glaf yn yr ysbyty rhwng 1950 a 1954.









