Terfysgoedd Beca
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Rhesymau dros ddewis yr enw Rebecca i gynrychioli'r terfysgwyr.
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 11-14
Pwnc : Hanes
Testun : Cymru a Phrydain diwydiannol, Oes Fictoria
Allweddeiriau : Terfysgoedd Beca, Tollborth, Tollau, Efailwen, Amaethyddiaeth,
Nodiadau : Dangos y clip fel sbardun i astudio Merched Becca gan nodi gwybodaeth am yr achosion, digwyddiadau a chanlyniadau. Defnyddio'r clip i wirio dealltwriaeth disgyblion yn dilyn astudiaeth o'r testun, gan annog y disgyblion i drafod i ba raddau roedd y brotest gan werin cefn gwlad Cymru yn llwyddiannus. Cwestiynau ar gynnwys y clip: Pryd ymosodwyd ar dollborth Efailwen? Tua faint o dollbyrth yr ymosodwyd arnynt erbyn 1843? Pa iaith oedd 'Becca' yn ei ddefnyddio wrth ysgrifennu llythyrau i'r wasg? Faint oedd gwerth y wobr am ddatgelu gwybodaeth am ferched becca? Pam ei bod hi'n anodd dal merched becca? Beth yw'r eglurhad gwahanol am wreiddiau'r enw 'Rebecca' fel arweinydd y terfysgwyr? Ail-leisiwyd yn y Gymraeg o'r gyfres wreiddiol. Gweler Making the Story of Wales a The Story of Wales am ragor o glipiau a gwybodaeth am y cyfresi gwreiddiol.
Hanes Cymru

Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.



