Menywod a'r Rhyfel Byd Cyntaf
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Archif yn dangos cyfraniad menywod i'r ymdrech y Rhyfel Byd Cyntaf.
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 11-14,14-16,16+
Pwnc : Hanes, Cymdeithaseg
Testun : Hanes Cymru a Lloegr 1880-1980, Cymru a Phrydain diwydiannol, Cymru a Phrydain fodern, Byd yr ugeinfed ganrif,
Allweddeiriau : Y newid yn rôl a statws menywod yng Nghymru a Lloegr o 1900 hyd heddiw, Newid a gwrthdaro yng Nghymru tua 1900-1919, Cymru Ewrop a'r Byd, Rhyfel Byd Cyntaf, Pleidlais i fenywod, Ymdrech ryfel, Hanes fenywod
Nodiadau : CYFNOD/CYRSIAU/PYNCIAU:
CA3: Sut mae rhai o unigolion a digwyddiadau'r ugeinfed ganrif wedi llunio ein byd ni heddiw.
TGAU: : Cymru a Lloegr ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, 1900-1919. Y newid yn rôl a statws menywod yng Nghymru a Lloegr o 1900 hyd heddiw.
Safon Uwch: Cymru a Lloegr, tua 1880-1980. Newid a Gwrthdaro yng Nghymru, tua 1900-1919.
Bagloriaeth Cymru: Cymru, Ewrop a'r Byd.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU HANESYDDOL: Disgrifio'r math o waith yr oedd menywod yn ei wneud yn y rhyfel. Gwerthuso'r gwahanol fathau o ffynonellau tystiolaeth sy'n cael eu cyflwyno. Ystyried pa mor arwyddocaol oedd profiad menywod yn ystod y rhyfel i'r ffaith iddynt gael y bleidlais yn fuan wedyn. Dewis a dethol gwybodaeth o'r clip i gefnogi ymholiad i effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar sefyllfa menywod.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU EHANGACH: Datblygu sgiliau llafaredd drwy gynnal trafodaeth grŵp. Ysgogi gwybodaeth a dealltwriaeth flaenorol er mwyn asesu dilysrwydd cynnwys y clip. Datblygu sgiliau ysgrifennu a ffurfio barn drwy lunio llythyr at y llywodraeth yn dadlau y dylai menywod gael mwy o hawliau o ganlyniad i'w cyfraniad at yr 'ymdrech ryfel' ar y ffrynt gartref.
AWGRYMIADAU AR GYFER GOSOD MEINI PRAWF LLWYDDIANT: Ddylai myfyrwyr yn gallu: 1) Deall beth oedd cyfraniad menywod at yr ymdrech ryfel. 2) Deall pam roedd menywod yn barod iweithio yn y rhyfel. 3) Ystyried pa gwestiynau eraill i'w gofyn er mwyn creu darlun llawn.
Hanes Cymru

Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.



