Boddi Tryweryn a Chenedlaetholdeb
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Boddi pentref Capel Celyn yn arwain at godiad genedlaetholdeb yng Nghymru
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 11-14,14-16
Pwnc : Hanes
Testun : Hanes Cymru a Lloegr 1880-1980, Cymru a Phrydain fodern, Cymru a Phrydain fodern
Allweddeiriau : Tryweryn, Capel Celyn, Tynged yr Iaith, Hanes yr Iaith Gymraeg, Saunders Lewis, Plaid Cymru, Gwynfor Evans, Datganoli, Genedlaetholdeb, Is-etholiad Caerfyrddin 1966
Nodiadau : Cefnogi ymholiad i hanes Cymru yn ystod yr 20fed ganrif. Ystyried pa mor bwysig oedd boddi Tryweryn i egluro twf cenedlaetholdeb Cymreig. Trafod dilysrwydd y dehongliad mai Tryweryn oedd gwraidd datganoli yng Nghymru. Cwestiynau ar gynnwys y clip: Beth oedd enw'r pentref yn Nyffryn Tryweryn? Pa ddinas yn Lloegr oedd eisiau dŵr? Pam bod y Cymry'n teimlo ei bod wedi cael cam? Beth oedd rôl Arglwydd Faer Caerdydd? Pryd cafodd y Swyddfa Gymreig ei sefydlu? Pwy oedd Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru? Ail-leisiwyd yn y Gymraeg o'r gyfres wreiddiol. Gweler Making the Story of Wales a The Story of Wales am ragor o glipiau a gwybodaeth am y cyfresi gwreiddiol.
Hanes Cymru

Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.



