Addysg Uwchradd Gymraeg

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions

Sefydlu'r Ysgol Uwchradd Gymraeg gyntaf yn Rhyl.

Ffilm a chyfweliadau gyda chyn-ddisgyblion, sy'n cofio'r ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf yn cael ei sefydlu yn y Rhyl ym 1956 - Ysgol Uwchradd Glan Clwyd.
O: Canrif y Werin Rhaglen 6
Darlledwyd yn gyntaf : 13 Chwefror 2000

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 11-14,14-16,16+

Pwnc : Hanes, Cymdeithaseg

Testun : Hanes Cymru a Lloegr 1880-1980, Cymru a Phrydain fodern, Byd modern, Cymuned a ddiwylliant, Byd yr ugeinfed ganrif,

Allweddeiriau : Datblygiad Cymru 1900-2000, Cymru Ewrop a'r Byd, Addysg, Addysg Gymraeg, Hanes addysg Gymraeg, Hanes addysg yng Nghymru

Nodiadau :
CYFNOD/CYRSIAU/PYNCIAU:
HANES CA3: Sut mae rhai unigolion a digwyddiadau'r ugeinfed ganrif wedi llunio ein byd ni heddiw. Byd yr ugeinfed ganrif.
TGAU: Datblygiad Cymru 1900-2000. Hanes addysg yng Nghymru.
Safon Uwch: Agweddau ar hanes Ewrop 1880-1980.
Bagloriaeth Cymru: Cymru, Ewrop a'r Byd.

CYMDEITHASEG (TGAU): Addysg.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU HANESYDDOL: Ystyried dilysrwydd y dehongliad fod sefydlu ysgol Glan Clwyd wedi bod yn 'garreg filltir hanesyddol'. Ystyried pam y byddai cryn wrthwynebiad wedi bod i sefydlu ysgol uwchradd gyfrwng Gymraeg. Sbarduno ymholiad pellach i addysg Gymraeg yng Nghymru a'r datblygiadau erbyn heddiw.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU: Ysgogi gwybodaeth a dealltwriaeth flaenorol am addysg/addysg Gymraeg yng Nghymru. Datblygu geirfa/iaith. Datblygu dealltwriaeth emosiynol drwy ystyried yr ymdeimlad o berthyn a bod yn aelod o deulu sy'n cael ei fynegi gan gyn-ddisgyblion Ysgol Glan Clwyd.
AWGRYMIADAU AR GYFER GOSOD MEINI PRAWF LLWYDDIANT: Ddylai myfywyr yn gallu: 1) Deall gwreiddiau addysg Gymraeg yng Nghymru. 2) Deall pam yr oedd rhai Cymry Cymraeg yn cefnogi sefydlu ysgolion uwchradd oedd yn darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg


Gwylio a gwrando

Protest Cymdeithas yr Iaith

Cymru a Phrydain

Clipiau fideo addysgol am Gymru a Phrydain yn yr 20fed Ganrif.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

RhyfeddOD

Mynwent

Ysbrydion

Straeon ysbryd a chlipiau fideo a sain o bob cwr o Gymru.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.