Caerllion
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Bwysigrwydd archeolegol yr amffitheatr Rhufeinig yng Nghaerllion.
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 11-14,14-16
Pwnc : Hanes
Testun : Celtiaid, Rhufeiniaid
Allweddeiriau : Caerllion, Amffitheatr, Bywyd pob dydd,Archaeoleg, Llwythi Celtaidd Cymru, Silwriaid, Hanes yr Iaith Gymraeg
Nodiadau : Defnyddio'r clip i ddatblygu dealltwriaeth y disgyblion ynglŷn â sut mae dehongliadau hanesyddol yn cael eu ffurfio. Ystyried y rhesymau sut a pham mae'r hyn rydyn ni'n ein wybod a'i ddeall am Gaerllion fel canolfan bwysig i'r Rhufeiniaid wedi newid, a'r prif ffactorau sydd wedi effeithio ar y dehongliad heddiw. Cwestiynau ar gynnwys y clip: Sawl llwyth o Frythoniaid oedd yng Nghymru yn y flwyddyn 43 OC? Faint o bobl allai eistedd yn yr amffitheatr? Beth fyddai'r gladiatoriaid yn ymladd yn ei erbyn? Pa dystiolaeth a ddefnyddiwyd i greu graffeg yr amffitheatr? Tua faint o bobl fyddai wedi byw yng Nghaerllion? Beth oedd y Rhufeiniad wedi ei gyflwyno i Gymru? Sut rydyn ni'n parhau i ddysgu am hanes y Rhufeiniaid yng Nghaerllion? Ail-leisiwyd yn y Gymraeg o'r gyfres wreiddiol. Gweler Making the Story of Wales a The Story of Wales am ragor o glipiau a gwybodaeth am y cyfresi gwreiddiol.
Hanes Cymru

Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.



