Hywel Dda
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Pwysigrwydd Hywel Dda i hanes Cymru a pam mae'n cael ei alw'n frenin 'Da'.
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 11-14,14-16
Pwnc : Hanes
Testun : Cymru ganoloesol, Byd canoloesol
Allweddeiriau : Hywel Dda, Cyfreithiau Hywel Dda, Bywyd pob dydd, Iawndal, Cymdeithas soffistegedig
Nodiadau : Cyflwyno'r cysyniad bod pobl yn gallu cael eu dehongli'n wahanol gan hanes. Trafod pa nodweddion fyddai'r disgyblion yn eu hystyried yn angenrheidiol er mwyn datgan bod rhywun yn 'Dda'. Defnyddio'r clip i ddod i ddeall pam mae Hywel ap Cadell yn cael ei adnabod fel Hywel Dda. Cwestiynau ar gynnwys y clip: Faint o dir Cymru oedd Hywel Dda yn ei reoli? Pwy fyddai fel arfer yn cael ei alw'n 'Dda'? Beth sy'n arbennig am gyfreithiau Hywel Dda? Am faint o amser oedd y Cymry'n dilyn cyfreithiau gwahanol i Loegr? Pam mae'r cyfreithiau'n rhoi darlun da o gymdeithas yr Oesoedd Canol? Ail-leisiwyd yn y Gymraeg o'r gyfres wreiddiol. Gweler Making the Story of Wales a The Story of Wales am ragor o glipiau a gwybodaeth am y cyfresi gwreiddiol.
Hanes Cymru

Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.



