Glo a Dociau'r Barri

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions

Datblygiad dociau Caerdydd a'r Barri o ganlyniad i ffyniant y diwydiant glo

Cyflwyno gwybodaeth am ddatblygiad Caerdydd o ganlyniad i ffyniant y diwydiant glo yn ystod ail hanner y 19eg ganrif. Datblygu i drafod dylanwad y teulu Bute ar y diwydiant a'r frwydr a enillwyd gan David Davies yn y pendraw i ddatblygu dociau'r Barri. O'r gyfres ' Story of Wales' , ail-leisiwyd i'r Gymraeg.
O: Story of Wales; ail-leisiwyd i'r Gymraeg
Darlledwyd yn gyntaf : 26 Mawrth 2012

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 11-14,14-16

Pwnc : Hanes

Testun : Hanes Cymru a Lloegr 1880-1980, Cymru a Phrydain diwydiannol, Oes Fictoria

Allweddeiriau : Diwydiant glo, Diwydant haearn, Dociau'r Barri, Y Barri, Masnach, David Davies, Dociau Caerdydd,

Nodiadau : Defnyddio'r clip i gefnogi ymholiad gan amlygu pwysigrwydd glo i hanes Cymru Diwydiannol ac ystyried pa effaith cafodd ffyniant y diwydiant glo ar ardal Caerdydd a'r Barri. Pa dystiolaeth sy'n cael ei gyflwyno i ddangos pwysigrwydd y diwydiant glo? Cwestiynau ar gynnwys y clip: Pwy oedd yn rheoli dociau Caerdydd? Pryd datblygwyd dociau Caerdydd? Pam bod eisiau adeiladu dociau yn y Barri? Sut roedd David Davies wedi gwneud ei ffortiwn? Ail-leisiwyd yn y Gymraeg o'r gyfres wreiddiol. Gweler Making the Story of Wales a The Story of Wales am ragor o glipiau a gwybodaeth am y cyfresi gwreiddiol.


Gwylio a gwrando

Protest Cymdeithas yr Iaith

Cymru a Phrydain

Clipiau fideo addysgol am Gymru a Phrydain yn yr 20fed Ganrif.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

RhyfeddOD

Mynwent

Ysbrydion

Straeon ysbryd a chlipiau fideo a sain o bob cwr o Gymru.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.