Travel Line Os ydych chi ar frys ac angen gwybodaeth yn sydyn am amseroedd bysus lleol a chenedlaethol, gall Travel Line roi gwybodaeth ichi yn ddwyieithog. Ffoniwch: 0870 6082608Cyngor Sir Ynys Môn Mae Cyngor Môn wedi paratoi Trefnydd Teithiau i'ch galluogi chi i ddod o hyd i wybodaeth am amseroedd bysus a llwybrau teithio yn yr ardal a thu hwnt. Gwefan:www.ynysmon.gov.uk/cymraeg Bws Gwynedd Mae'r gwasanaeth hwn gan Gyngor Gwynedd yn ateb eich ymholiadau am amserlenni bysus drwy'r sir. Mae'r wefan yn cynnwys rhifau defnyddiol i gysylltu â chwmnïau bysus a syniadau am lefydd i fynd a sut i gyrraedd yno. Ffoniwch: 01286 679535 Gwefan: www.gwynedd.gov.uk Cyngor Sir Conwy Mae Conwy yn bwriadu cynnig gwasanaeth amserlenni teithio maes o law. Yn y cyfamser, fe allwch chi ddefnyddio eu llinell ffôn i holi am amseroedd bysus. Ffoniwch: 01492 575412 Canolfan Reoli Traffig Gogledd Cymru Mae'r safle yma'n cynnig amrywiaeth o wybodaeth am draffig a theithio yng ngogledd Cymru gan gynnwys awgrymiadau buddiol ar sut i arbed arian ar y tocynnau bysus sydd ar gael. Gwefan: www.nwales-traffic.co.uk ARRIVA Cymru O'u gorsafoedd yn Aberystwyth, Bangor, Caego, Caer, Cyffordd Llandudno ar Rhyl, mae ARRIVA Cymru yn cynnig gwasanaeth bysus lleol i drigolion gogledd a chanolbarth Cymru. Ffoniwch: 0870 6082608 Gwefan: www.arriva.co.uk
 |