BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Ynys Môn

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr ysgol werdd o'r ochr. Gwelir y canopiau ar y lle chwarau a fydd yn rhoi lloches wrth yr haul a'r glaw.Yr Ysgol Werdd
Gareth Thomas yw'r pensaer a gynlluniodd yr ysgol werdd ar gyfer Cyngor Ynys Môn. Esboniodd dipyn am y prosiect wrth y BBC.

Pan ddaeth yn amser i adeiladu ysgol newydd roedd Cyngor Ynys Môn eisiau defnyddio technoleg gwahanol. Hefyd, gan fod y Cynulliad yn rhoi arian tuag at y fenter, roedd yn rhaid i'r cyngor gynnwys rhai pethau yn y cynllun, e.e. ei gwneud hi'n bosib i'r plant i gerdded i'r ysgol.

Allan o'r syniadau a'r gofynion uchod y tyfodd y syniad o greu ysgol werdd.

Bathodyn Ysgol Y Graig, Llangefni.Nodweddion
Mae'r gwaith adeiladu wedi cychwyn ers mis Tachwedd. Mi fydd nifer o nodweddion blaengar i'w gweld yn yr ysgol orffenedig.

Ar ran o'r to bydd yna baneli solar er mwyn creu trydan tra fydd rhan arall yn 'do gwyrdd' wedi ei wneud o blanhygion sydd yn mynd i ddenu pryfed ac adar a dal dŵr glaw.

Bydd tu fewn yr ysgol yn wahanol hefyd. Mi fydd yr adeilad yn fwy agored nag ysgolion traddodiadol, mi fydd yna fwy o olau naturiol ac mi fydd y tymheredd yn cael ei rheoli gan system awyru 'ecolegol'. Y gobaith yw y bydd hyn yn creu hinsawdd dymunol iawn ar gyfer y plant.

Ac ar y dyddiau tywyllach hynny pan mae'n rhaid defnyddio'r golau trydan yna bydd pob bwlb un yn yr ysgol yn un ynni effeithlon.

Dewch i fewn i'r ysgol werdd. Cerrig o chwarel yn Sir Fôn fydd o gwmpas y brif fynedfa. Mae'r syniad o ysgol werdd hyd yn oed yn estyn i amser chwarae. Yn y lle chwarae tu allan bydd yna ganopiau a fydd yn rhoi lloches i'r plant rhag yr haul yn yr haf a rhag y glaw yn y gaeaf.

Rhywbeth a fydd yn dod yn fwy a fwy pwysig yn ôl Gareth Thomas oherwydd fod y byd yn twymo. Mae hyn yn golygu ein bod yn mynd i gael hafau twymach a gaeafau gwlypach.

Gobaith Gareth Thomas ydy y bydd yr ysgol hon yn batrwm ar gyfer ysgolion y dyfodol.

Gwrandewch ar ddisgyblion Ysgol Y Graig yn holi Maer Llangefni ynghylch yr ysgol werdd.

Sut i fod yn fwy gwyrdd - ar wefan Mosgito.



Lleol i Mi
Radio Cymru
Llyfrau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy