| Dechreuodd Mrs Ann Pritchard o Engedi helpu gyda'r clwb pan oedd yn gweithio yng nghegin yr ysgol, lle bu'n gogydd am 30 mlynedd. Hi ydy'r trysorydd bellach.
"Rydan ni'n cael gwesteion yno - i gynnal cwis, canu, dangos ffilmiau - ac unwaith y flwyddyn rydan ni'n cael Bingo," meddai.
"Mi fydd yr aelodau yn cael paned, teisan a raffl ac mi fyddwn yn codi pres ar gyfer ein parti Nadolig yn y raffl fawr.
"Ein parti Nadolig ydy cyfarfod olaf y flwyddyn - mae'n gyfle i bobl gael sgwrs efo'i gilydd a bwyd ac mi fydd pawb yn dod ag anrheg bach, wedyn mi fydd pawb yn cael un o'r anrhegion.
"Rydan ni'n cau dros y gaeaf, gan ei bod yn tywyllu a'r tywydd yn ddrwg ac yn ail-gychwyn eto fis Mawrth."
 |