Wedi ychydig o hyfforddiant gan griw bws y BBC aeth rhai o ddisgyblion Ynys Môn ati i gasgli gwybodaeth, holi a recordio cyfweliadau. Gwrandewch... Ymarfer Corff v Cyfrifiaduron
Ymarfer Corff v Cyfrifiaduron. Disgyblion Ysgol Amlwch yn ymchwilio.
Mae disgyblion Ysgol Amlwch wedi darllen arolwg diweddar sydd yn dweud fod plant Prydain yn treilio 9.4 awr yr wythnos y chwarae'r cyfrifiadur ond llai na awr yn gwneud ymarfer corff.
Mae Miss Prichard, yr athrawes ymarfer corff, yn credu fod hyn yn 'lot gormod o amser i fod yn eistedd o flaen sgrin cyfrifiadur.'
Ond mae'r athrawes gyfrifiaduron, Miss Owain, yn credu fod cyfrifiaduron yn hywluso ei gwaith ac yn ei helpu gyda dysgu'r plant...
Beth yw barn y disgyblion? Falle cewch eich synnu!
Ailgylchu Bagiau Plastig
Ydych chi'n ailgylchu bagiau plastig? Disgyblion Ysgol Morswyn yn holi.
'Un o broblemau mawr bob dydd ydy bagiau plastig..'
Mae mudiadau amgylcheddol yn annog pobl i ddefnyddio yr un bag i wneud eu siopa yn hytrach na defnyddio bagiau plastig newydd bob tro.
Mae rhan fwyaf o fagiau plastig yn cael ei taflu i'r sbwriel, ychydig iawn sydd yn cael eu hailgylchu.
Ond mewn un archfarchnad yn Nghaergybi mae 1464 o fagiau plastig yn cael eu hailgylchu bob mis.
Faint o siopwyr felly sydd yn talu sylw i broblem y bagiau plastig? Gwrandewch ar ddisgyblion Ysgol Morswyn, Caergybi yn holi...
Ysgol Werdd!
Pam cael Ysgol Werdd? Disgyblion Ysgol Y Graig yn holi.
Mae Ysgol y Graig, Llangefni, yn cael ei hail-adiladu, mi fydd yr ysgol newydd yn dra wahanol i'r hen un.
Hon fydd yr ysgol gyntaf yn y sir i gynhrychu trydan ei hun, ac os bydd peth yn weddill y bwriad yw ei werthu i'r grid cenedlaethol!
Bydd nodweddion unigryw eraill i'r ysgol gan gynnwys teils to solar, tyrbin gwynt a 'tho gwyrdd' - un wedi ei wneud allan o laswellt - a fydd yn darparu cynefin naturiol i blanhigion a phryfed.
Gwrandewch ar y disgyblion yn holi Maer Llangefni, Meurig Bowen Hughes BSc, pam bod cael ysgol werdd yn beth da.
Mwy o luniau o'r ysgol newydd ar wefan Ysgol Y Graig
(Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol)