| Mae Aled Hopton yn dilyn cwrs gradd mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor ac mae wedi bod yn cyfeilio i Aelwyd yr Ynys ers mis Medi 2006.
Er mwyn cwblhau'r cynllun gwirfoddoli ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed, mae'n rhaid i aelodau'r Urdd wirfoddoli am hyd at 200 awr ar brosiectau sy'n cael effaith amlwg ar y gymuned leol. Dechreuodd Aled y cynllun ym mis Awst 2007 a thros gyfnod o bum mis bu'n gwirfoddoli yn ei gymuned leol, gan gyrraedd ei darged o 200 awr ar 21 Ionawr 2008.
Daw'n wreiddiol o Ystradgynlais ac mae hefyd yn aelod o Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ers 2004. Meddai Aled: "Rwyf wedi cael llawer o brofiadau sydd wedi fy helpu tuag at dderbyn y wobr yma. Mae gweithio gyda phobl ifanc fel plant cynradd ar amryw o weithgareddau yn rhoi pleser mawr i mi bob amser. Mae cael cydnabyddiaeth am y gwirfoddoli heb os yn fy annog i wneud mwy o waith tebyg."
 |