"Mae criw ohonom yn mynd i sgïo bob blwyddyn ac fe gewch yr hyn maen nhw yn eu alw'n toffee vodka ar y llethrau, diod bach i'ch cynhesu. "Ond doedd dim modd prynu potel i fynd adref efo ni, oherwydd eu bod yn ei gymysgu a phob un yn wahanol. "Am ychydig o hwyl, fe wnaethon ni beth ar ôl cyrraedd adref - ond wnaeth o ddim para'n hir! "A dyma benderfynu, bod yn rhaid inni geisio ei werthu a gweld os allwn ni wneud pres ac fe wnaethon ni benderfynu mynd amdani. "Yn y tŷ y gwnaethon ni ei wneud y tro cyntaf. Ond mi sylweddolon os oeddem am ei werthu yna roedd rhaid defnyddio rhywun oedd yn gallu ei botelu a'i ddistyllu. "Rydym yn cael rhywun arall i wneud i ni rŵan ac rydyn ni yn ei hybu. "Am nad ydym yn treulio ein hamser i gyd yn ei gynhyrchu, rydyn ni'n gallu rhoi ein hymdrech i'w farchnata. A'r peth da amdano yw ei fod yn unigryw. "Mae Weatherspoons yng Nghymru yn ei werthu yn ogystal â thafarndai JW Lees, Robinsons a thai rhydd yn lleol. "Mae siopau Spar yng ngogledd a chanolbarth Cymru wedi ei gymeryd hefyd. "Y cynllun ar gyfer y flwyddyn nesaf yw symud ymlaen i dde Cymru. "Rydym yn ei werthu ar draws Prydain drwy'r we a 'does dim rheswm pam na allwn ei werthu dros y byd."
 |