BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Ynys Môn

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Stondin Deri Môn mewn marchnad leolCochi cig a physgod
Mae Chris Jones yn rhedeg cwmni cochi cig a physgod, Deri Môn, gyda'i bartner David McCreadie. Mae cynnyrch y cwmni yn cael ei werthu mewn marchnadoedd ffermwyr ac yn siop y cwmni yn Nulas ger Amlwch.

"Roeddwn yn gwneud lot adra ers talwm, a hobi oedd o fwy na dim byd. Roeddwn i ar y môr amser hynny ac yn gweithio i'r Merchant Navy.

"Ar ôl gorffen ar y môr, roedd rhaid imi feddwl be' i'w wneud nesa'. Ac fe awgrymodd cyfaill oedd gyda mi yn y Gwlff, Dave, pam na faswn i'n trio smocio gan fod gen i smociwr adra.'

"Fe wnaethom ni samplau i wahanol westai a delicatessens ac ati a'r rheiny yn dweud 'os ewch chi yn llawn amser fe wnawn ni brynu ganddoch chi'.

"Rydym wedi bod wrthi ers tair blynedd, a doedden ni ddim yn meddwl y byddai wedi datblygu fel hyn.

"Roedden ni eisiau ei gadw'n lle bach a'i wneud fel roedd yr hen smokeries ers talwm a ddim eisiau ei wneud fel ffatri.

"Fe gostiodd bres i wneud hyn i gyd oherwydd bod popeth yn gorfod bod yn iawn ar gyfer iechyd a diogelwch.

"Tydw i ddim eisiau i ni ddatblygu'n rhy fawr ac eisiau ei gadw fel hen smokery gyda thri neu bedwar ohonon ni yn gweithio yma.

"Mae hynny yn gadael i ni wneud pethau yn iawn fel roeddent ers talwm. Er enghraifft does 'na ddim additivies yn cael eu hychwanegu.

"Roeddem yn Sioe Môn dair blynedd yn ôl a bu'r Tywysog Charles a'i fab William, oedd yn 21 oed y diwrnod wedyn, yn siarad efo ni.

"Bu'n siarad efo ni am ryw hanner awr ac roedd yn gofyn a oeddem yn gwneud y cynnyrch yn yr un ffordd ag oedd yr hen bobl. Roedd ganddo ddiddordeb mawr.

"Mae'r siop yn brysur iawn, yn enwedig yn yr haf pan mae ymwelwyr o'r parc carafanau yn dod yma i brynu bacwn a selsig i frecwast.

"Dwi wedi cyrraedd yma am wyth o'r gloch y bore a chael dwsinau o bobl yn disgwyl wrth y drws!"



Lleol i Mi
Radio Cymru
Ffilmiau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy