BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Ynys Môn

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Crancod parodCimychiaid a Chrancod
Mae digon o alw am fwyd môr lleol ar yr ynys yn ôl David Livingstone sy'n rhedeg cwmni Cemaes Bay Lobsters & Crabs ers 1999.

"Roedd pysgota yn hobi am nifer o flynyddoedd tra roeddwn yn gweithio yn y ffatri gemegau yn Amlwch, cyn gorffen yno er mwyn pysgota'n llawn amser.

"Fe ddechreuon ni yn 1999, gan werthu cimychod a chrancod i dai bwyta. Yna, yn 2003 awgrymodd ffrind pam na fydden ni'n gwneud crancod parod?

"Wedi i ni ganfod sut oedd gwneud hynny fe ddechreuon ni o'r fan honno ac mae wedi tyfu a thyfu.

Paratoi'r cynnwys"Gallwn ganolbwyntio ar wneud cranc parod pan fo'r tywydd yn ddrwg a phan na allwn fynd ar y môr. Mae'n rhaid i chi ddod â llwyth o grancod i fewn, eu prosesu ac yna eu gwerthu.

"Rydym yn darparu ar gyfer tai bwyta, caffis, gwestai ac unigolion. Yn Ynys Môn yn unig rydyn ni'n dosbarthu, ond mae'n rhaid cofio bod nifer fawr o westai a thai bwyta ar yr ynys.

"Dwi'n mynd allan ar y cwch, a brynais yn 2002, pan fydd y tywydd yn iawn ac yn ystod yr haf dwi allan bob dydd.

"Mae'n amrywio faint rydw i'n ei ddal. Yn ystod yr haf, pan fo'r tymor yn ei anterth, gallwch fynd allan a dal 60 i 70 o gimychiaid a thua'r un nifer o grancod.

"Pan fo'r tymor yn ei anterth rydym yn prosesu tua 400 o grancod yr wythnos ac mae'n waith llafurus iawn.Cewyll

"O'r eiliad rydyn ni'n dod nôl, mae'n rhaid eu coginio cyn gadael iddynt oeri dros nos a'u dosbarthu y diwrnod canlynol.

"Maen nhw wastad yn ffres, a dim ond os oes rhaid rydyn ni'n eu rhewi.

"Sefydlwyd y gegin y llynedd oherwydd ein bod angen digonedd o le ac mae'n llawer gwell gan fod popeth i law."



Lleol i Mi
Radio Cymru
Ffilmiau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy