BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Ynys Môn

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Paratoi cigCig Eidion Cymreig
Mae cig o fferm Brian a Fiona Thomas yng Nghoed Anna, Llannerch y Medd, wedi cael sêl bendith Rick Stein. Maen nhw'n gwerthu cig eidion yn lleol ac mewn marchnadoedd ffermwyr.

"Y prisiau gwael yr oedd ffermwyr yn ei gael am eu cynnyrch wnaeth ein hysgogi ni i ddechrau'r busnes.

"Yn Lloegr mae marchnad ffermwyr yn rhywbeth mawr. Ond am ryw reswm yng ngogledd Cymru nid ydynt wedi tanio cystal.

"Aethom i Loegr er mwyn gweld sut roedd marchnad ffermwyr yn gweithio, faint o bobl oedd yn eu mynychu, pa fath o bethau oedd yn cael eu gwerthu yno.

"Roeddem yn teimlo fod yna farchnad i ni oherwydd fod gennym rywbeth arbennig, sef cig eidion du Cymreig.

"Penderfynwyd dechrau'r busnes, gan lansio yn Sioe Môn yn 2000, ac fe aethon ni i farchnadoedd ffermwyr yn ochrau Lerpwl a Manceinion.

"Mae yna alw am gynnyrch lleol ac mae pobl eisiau olrheinrwydd ac eisiau gwybod o ba fferm y daw eu cig a sut mae wedi ei fagu.

"Rydym yn gwerthu yn lleol, ac er nad oes gennym siop ar y fferm mae croeso i unrhyw un ddod yma a phrynu cyn lleied ag y maen nhw eisiau.

"Rydym yn mwynhau siarad gyda'r cwsmeriaid yn y marchnadoedd - mae llawer ohonynt wedi dod fel ffrindiau inni.

"Os oes gennych chi gynnyrch da, mae pobl yn mynd i ddod yn ôl atoch.

"Mae'r ffaith ein bod yn un o arwyr bwyd Rick Stein, wedi bod ar raglen Dudley ac wedi bod yn y Financial Times yn bwysig.

"Ond y cwsmeriaid yn dod yn ôl i brynu wythnos ar ôl wythnos, fis ar ôl mis, yw'r prawf bod gennych gynnyrch gwerth chweil.

"Y nod yw cael pobl Cymru i gefnogi ffermwyr Cymru neu gynhyrchwyr bwyd Cymreig. Ledled y wlad, o Fôn i Fynwy, mae yna ddigon o gynhyrchwyr bwyd.

"Y cam nesaf inni yw datblygu'r safle bwtsiera yn un organig er mwyn i ni allu gwerthu ar y we."

Fiona Thomas yn ateb holiadur



Lleol i Mi
Radio Cymru
Llyfrau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy