BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Ynys Môn

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Bryn Celli DduOlion hynafol Môn
Cromlechi a meini hirion ar Ynys Môn
"Mae nifer o bethau diddorol i'w gweld ar Ynys Môn - y rhai mwyaf hynafol yw'r cromlechi a meini hirion a godwyd gan y brodorion cynharaf," Britta Schulze-Thulin, Almaenes fu'n astudio yn Aberystwyth, sy'n ein harwain ar wibdaith o amgylch safleoedd Neolithig Môn.
"Mae'r dystiolaeth am yr hen ddiwylliant hwn yn gwneud argraff arbennig. Felly, es i o gwmpas yr ynys gan ganolbwyntio ar y rhai hawsaf eu cyrraedd.

Yn gyntaf, beth ydy 'cromlechi' a 'meini hirion'? Claddfeydd cerrig megalithig mawr ydy'r cromlechi lle oedd y meirw yn cael eu claddu yn yr Oes Gerrig Newydd (cyfnod Neolithig). Roedd y llwythau yn ymsefydlu mewn cymunedau ffermio bychain. Mae'r enw 'megalith' yn tarddu o'r Groeg: megis mega ydy 'mawr' a lithos ydy 'carreg', felly claddfeydd cerrig mawr.

Codwyd meini hirion tua'r un adeg (neu yn gynharach) ond does dim ateb pendant i'r cwestiwn 'Pam?'. Y rheswm mwyaf tebygol ydy mai dangos y ffordd neu symbolau o'r meirw a'r duwiau oeddent. Mae hi'n bosib eu gweld o bell gan eu bod yn sefyll ar ben bryncyn fel arfer. Ac maen nhw'n dirnodau pwysig fel y cromlechi.

Mae Ynys Môn mewn safle strategol rhwng Môr Iwerddon a Chymru. Felly ymsefydlodd pobl ar yr ynys yn gynnar iawn ac mae nifer o bethau yn tystio i'r traddodiad Gwyddelig, y rhai amlycaf ydy'r adeiladau megalithig sef cromlechi a meini hirion.

Ar ôl mynd dros Bont y Borth neu Bont Britannia trowch i'r chwith (A 4080), ar ôl Plas Newydd i'r dde, cewch weld cromlech Bryn Celli Ddu, tomen gladdu gron mewn cyflwr da ac ynddi dramwyfa sy'n arwain i siambr ganolog.

Mae'r orsedd o'i gwmpas yn arbennig. Mae'r safle yn afaelgar iawn. Ewch ymlaen, heibio i Frynsiencyn a throwch i'r dde, heibio i Gaer Lêb (cofeb o'r cyfnod Rhufeinig) ac wedyn i siambr gladdu fach Bodowyr sy'n edrych fel madarchen fawr ar ffurf carreg ar ei ben.

Dilynwch yr A 4080 yn bellach, heibio i Aberffraw a stopiwch wrth faes parcio Bae Trecastell. Mae llwybr yr arfordir yn arwain i'r gromlech Barclodiad y Gawres. Yr hyn sydd mor arbennig amdani ydy'r patrymau troellog ac igam-ogam dolennog anghyffredin ynddi. Awn ymlaen, heibio i Lanfaelog mae siambr gladdu Tŷ Newydd sydd angen cael ei chynnal gan golofn. Ymhellach ymlaen, mae nifer o feini hirion ar Ynys Cybi yn tynnu sylw.

Ar bwys yr hen stryd rhwng Caergybi a Threarddur mae dau faen hir Tŷ Mawr a Trearddur ar y dde. Mae'r un olaf yn sefyll ar fryncyn ac mae gorsedd o gwmpas. Ar y chwith cewch weld siambr gladdu Trefignath sy'n cynnwys tair siambr o gyfnodau gwahanol, yn ddiddorol iawn.

Wedyn, ewch i'r Gogledd, yma mae dau faen hir o'r enw Penrhos Feilw sydd yn ddeg troedfedd o uchder. Roedden nhw ynghanol cylch cerrig yn flaenorol.

Awn yn ôl i'r brif ynys a gweld dwy gromlech, Prysaddfed ger Llyn Llywenan. Mae'r un ar y dde mewn cyflwr da ac mae defaid yn cuddio ynddi. Peidiwch ag anghofio siambr gladdu Llugwy ar bwys Moelfre yn y gogledd chwaith - mae'r garreg ar ei phen yn enfawr ac yn pwyso 28 tunnell.

Dyma'r gylchdaith o gwmpas yr Ynys Môn: gallwch chi glywed mwy am yr henebion o Oes y Cerrig yn Oriel Ynys Môn yn Llangefni i roi diweddglo perffaith i'ch trip."

Britta Schulze-Thulin, Yr Almaen

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.



Lleol i Mi
Radio Cymru
Theatr


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy